RHAN 1CYDLAFURIO GAN GYRFF ADDYSG

3Dyletswydd corff addysg i gydlafurio

(1)

Rhaid i gorff addysg ystyried o dro i dro a fyddai arfer ei bwerau cydlafurio yn hyrwyddo amcan y cydlafurio wrth iddo arfer ei swyddogaethau eraill.

(2)

Os daw corff addysg i'r casgliad y byddai arfer pŵer cydlafurio yn hyrwyddo amcan y cydlafurio wrth iddo arfer ei swyddogaethau, rhaid iddo geisio arfer y pŵer, neu beri iddo gael ei arfer.

(3)

Mae'r ddyletswydd yn is-adran (1) yn gymwys i'r cyrff a grybwyllir ym mharagraffau (c) a (d) o adran 1 i'r graddau y mae'n ymwneud â darparu addysg uwchradd ac addysg bellach sy'n addas at anghenion personau nad ydynt eto'n 19 oed.

(4)

Nid yw'r ddyletswydd yn is-adran (1) yn lleihau effaith y dyletswyddau yn—

(a)

adran 33K o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (cyflawni hawlogaethau cwricwlwm lleol ar gyfer myfyrwyr 16 i 18 oed: gweithio ar y cyd);

F1(b)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F2(c)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F3(d)

adran 65 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.