RHAN 3YSGOLION SEFYDLEDIG

29Arbedion: cynigion i newid categori i ysgol sefydledig

(1)

Mae is-adran (2) yn gymwys i gynnig gan awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir i newid categori ysgol a gynhelir i ysgol sefydledig pan fo'r cynnig—

(a)

wedi ei gyhoeddi o dan baragraff 2 o Atodlen 8 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 cyn bod adran 27 wedi dod i rym, a

(b)

heb gael ei weithredu yn unol â rheoliadau a wnaed o dan baragraff 5 o Atodlen 8 i'r Ddeddf honno cyn bod adran 27 wedi dod i rym.

(2)

Mae Atodlen 8 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn cael effaith fel pe na bai'r diwygiadau yn adran 27 wedi eu deddfu.

(3)

Yn yr adran hon, ystyr “ysgol a gynhelir” yw—

(a)

ysgol gymunedol,

(b)

ysgol wirfoddol a gynorthwyir, neu

(c)

ysgol wirfoddol a reolir.