RHAN 2LLYWODRAETHU YSGOLION
PENNOD 2HYFFORDDIANT I LYWODRAETHWYR A CHLERCOD A DARPARU CLERCOD
23Dyletswydd awdurdodau lleol i ddarparu clercod i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir
(1)
Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru hysbysu, o dro i dro, bob corff y mae'n ofynnol iddo benodi clerc i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol o dan adran 23 o Ddeddf Addysg 2002 y caiff y corff hwnnw ofyn i'r awdurdod ddarparu person i'w benodi'n glerc.
(2)
Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol yng Nghymru ddarparu person i'w benodi os gwneir cais.
(3)
Caiff y rheoliadau (ymhlith pethau eraill)—
(a)
rhoi pŵer i awdurdod lleol godi ffi am ddarparu person (gan gynnwys pŵer i godi ffioedd gwahanol mewn achosion gwahanol);
(b)
rhagnodi'r person y mae'n rhaid i'r ffi gael ei thalu drwyddo;
(c)
darparu ar gyfer eithriadau ac esemptiadau.