RHAN 2LL+CLLYWODRAETHU YSGOLION

PENNOD 2LL+CHYFFORDDIANT I LYWODRAETHWYR A CHLERCOD A DARPARU CLERCOD

22Gwybodaeth a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgolion a gynhelirLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau y darperir, yn rhad ac am ddim, i bob llywodraethwr unrhyw wybodaeth y mae'r awdurdod lleol yn barnu ei bod yn briodol mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau llywodraethwr.

(2)Mae'r ddyletswydd hon yn gymwys i'r graddau nad yw'n ofynnol fel arall i'r awdurdod lleol sicrhau bod y cyfryw wybodaeth yn cael ei darparu.

(3)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau y darperir, yn rhad ac ddim, hyfforddiant rhagnodedig i lywodraethwyr rhagnodedig ysgolion a gynhelir.

(4)Caniateir i hyfforddiant gael ei ragnodi drwy gyfeirio at ddogfen a gyhoeddir, fel a bennir yn y rheoliadau, gan Weinidogion Cymru.

(5)Nid yw gofynion rheoliadau o dan is-adran (3) yn lleihau effaith y ddyletswydd a ganlyn.

(6)Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau bod unrhyw hyfforddiant y mae'n barnu ei fod yn angenrheidiol yn cael ei roi ar gael i bob llywodraethwr, yn rhad ac am ddim, er mwyn i swyddogaethau'r llywodraethwr gael eu cyflawni'n effeithiol.

(7)Yn yr adran hon, ystyr “llywodraethwr” yw llywodraethwr ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol.

(8)Yn adran 22 o Ddeddf Addysg 2002, ar ôl “authority” mewnosoder “in England”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 22 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)

I2A. 22 mewn grym ar 22.8.2013 gan O.S. 2013/2090, ergl. 2