RHAN 2LLYWODRAETHU YSGOLION

PENNOD 1FFEDEREIDDIO YSGOLION A GYNHELIR

13Corff llywodraethu sengl ar gyfer ffederasiynau

O ran ffederasiwn—

(a)

rhaid bod ganddo gorff llywodraethu sengl sydd wedi ei gyfansoddi o dan offeryn llywodraethu sengl;

(b)

mewn achosion rhagnodedig, rhaid iddo gael ei drin fel ysgol sengl at ddibenion unrhyw ddeddfiadau a ragnodir, ac eithrio unrhyw ddeddfiad a gynhwysir F1yn Rhan 3 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (trefniadaeth ysgolion) neu yn Rhan 3 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (derbyniadau i ysgolion)