RHAN 2LLYWODRAETHU YSGOLION

PENNOD 1FFEDEREIDDIO YSGOLION A GYNHELIR

13Corff llywodraethu sengl ar gyfer ffederasiynau

O ran ffederasiwn—

(a)

rhaid bod ganddo gorff llywodraethu sengl sydd wedi ei gyfansoddi o dan offeryn llywodraethu sengl;

(b)

mewn achosion rhagnodedig, rhaid iddo gael ei drin fel ysgol sengl at ddibenion unrhyw ddeddfiadau a ragnodir, ac eithrio unrhyw ddeddfiad a gynhwysir ym Mhennod 2 o Ran 2 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (sefydlu, newid neu ddirwyn ysgol i ben) neu yn Rhan 3 o'r Ddeddf honno (derbyniadau i'r ysgol).