RHAN 2LLYWODRAETHU YSGOLION

PENNOD 1FFEDEREIDDIO YSGOLION A GYNHELIR

11Cynigion gan awdurdodau lleol i ffedereiddio ysgolion

(1)

Caiff awdurdod lleol wneud cynigion i ffedereiddio—

(a)

dwy neu ragor o ysgolion a gynhelir;

(b)

ffederasiwn sy'n bodoli eisoes ac un neu ragor o ysgolion a gynhelir;

(c)

dau neu ragor o ffederasiynau sy'n bodoli eisoes.

(2)

Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi cynigion a wneir o dan yr adran hon.

(3)

Rhaid i awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau, ymgynghori â'r personau canlynol ar y cynigion a gyhoeddir—

(a)

cyrff llywodraethu ysgolion neu ffederasiynau i'w ffedereiddio;

(b)

staff yr ysgolion;

(c)

un neu ragor o gyrff (os oes) yr ymddengys i'r awdurdod eu bod yn cynrychioli buddiannau staff yr ysgolion;

(d)

i'r graddau y mae'n ymarferol, disgyblion a gofrestrwyd yn yr ysgolion a'u rhieni.

(4)

Nid yw is-adran (2) na (3) yn gymwys mewn perthynas â chynnig ar gyfer ffederasiwn a ffurfir o ysgolion bach yn unig.

(5)

Mewn perthynas â chynnig ar gyfer ffederasiwn a ffurfir o ysgolion bach yn unig, rhaid i'r awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau, ymgynghori â chyrff llywodraethu'r ysgolion dan sylw.

(6)

Ystyr “ysgol fach” yn is-adrannau (4) a (5) yw ysgol a gynhelir sydd, ar y dyddiad y gwneir y cynnig o dan is-adran (1), yn ysgol fach a gynhelir yn ôl y diffiniad mewn gorchymyn o dan adran 15.

(7)

Rhaid i awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau, benderfynu p'un ai—

(a)

cadarnhau cynigion, gyda neu heb addasiad neu'n ddarostyngedig i ddigwyddiad, neu

(b)

eu tynnu'n ôl.

(8)

Caiff awdurdod lleol wneud cynigion ar gyfer ffederasiwn sy'n cynnwys ysgol a gynhelir a honno'n ysgol nad yw'n ei chynnal cyhyd â bod yr awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgol yn cydsynio.

(9)

Caiff awdurdod lleol wneud cynigion ar gyfer ffederasiwn sy'n cynnwys ysgol sefydledig neu wirfoddol cyhyd â bod y personau canlynol yn cydsynio—

(a)

yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu un o ysgolion yr Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol, a

(b)

yn achos unrhyw ysgol sefydledig neu wirfoddol arall, y person neu'r personau y penodwyd y llywodraethwyr sefydledig ganddynt.

(10)

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch cynigion o dan yr adran hon ac (ymhlith pethau eraill) gwneud darpariaeth ynghylch—

(a)

sicrhau cydsyniad personau rhagnodedig i wneud, cyhoeddi neu gadarnhau cynigion;

(b)

yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn y cynigion, neu sydd i'w darparu mewn perthynas â hwy;

(c)

cyhoeddi cynigion;

(d)

ymgynghori ynghylch y cynigion;

(e)

gwneud gwrthwynebiadau i'r cynigion neu sylwadau ar y cynigion;

(f)

tynnu'r cynigion yn ôl neu eu haddasu;

(g)

y modd y mae'r awdurdod lleol i gadarnhau'r cynigion.