RHAN 2LLYWODRAETHU YSGOLION

PENNOD 1FFEDEREIDDIO YSGOLION A GYNHELIR

10Ffedereiddio ysgolion gan gyrff llywodraethu

(1)

Mae'r adran hon yn gymwys i gyrff llywodraethu—

(a)

dwy neu ragor o ysgolion a gynhelir,

(b)

ffederasiwn sy'n bodoli eisoes ac un neu ragor o ysgolion a gynhelir, neu

(c)

dau neu ragor o ffederasiynau sy'n bodoli eisoes.

(2)

Caiff cyrff llywodraethu ddarparu i'w priod ysgolion gael eu ffedereiddio.

(3)

Mae'r pŵer hwn yn ddarostyngedig i'r canlynol—

(a)

cydymffurfio ag unrhyw amodau rhagnodedig, a

(b)

arfer y pŵer yn unol ag unrhyw weithdrefn ragnodedig.