xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4CYFFREDINOL

31Dehongli'n gyffredinol

(1)Yn y Mesur hwn—

(2)Yn ddarostyngedig i is-adran (3), mae Deddf Addysg 1996 a darpariaethau'r Mesur hwn i'w darllen fel petai'r darpariaethau hynny wedi eu cynnwys yn Neddf Addysg 1996.

(3)Pan roddir, at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Mesur hwn, ystyr gwahanol i ymadrodd i'r un a roddwyd iddo at ddibenion Deddf Addysg 1996, bydd yr ystyr a roddir at ddibenion y ddarpariaeth honno yn gymwys yn lle'r un a roddwyd at ddibenion y Ddeddf honno.

32Gorchmynion a rheoliadau

(1)Mae unrhyw bŵer gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Mae unrhyw bŵer gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthau gwahanol o achos, ardaloedd gwahanol neu ddibenion gwahanol;

(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu'n ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodedig neu mewn perthynas ag achosion penodol neu ddosbarthau penodol o achos yn unig;

(c)i wneud unrhyw ddarpariaethau cysylltiedig, atodol, dros dro, trosiannol neu ddarpariaethau arbed fel y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.

(3)Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn neu orchymyn a wneir o dan adran 15 neu 30 yn ddarostyngedig i'w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

33Cychwyn

(1)Mae darpariaethau canlynol y Mesur hwn yn dod i rym ar ddiwedd cyfnod o ddeufis sy'n dechrau ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor—

(a)adrannau 26 i 32;

(b)yr adran hon;

(c)adran 34.

(2)Daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

34Enw byr a chynnwys y Mesur yn y Deddfau Addysg

(1)Enw'r Mesur hwn yw Mesur Addysg (Cymru) 2011.

(2)Mae'r Mesur hwn i'w gynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a osodir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996.