Mesur Addysg (Cymru) 2011

PENNOD 2LL+CHYFFORDDIANT I LYWODRAETHWYR A CHLERCOD A DARPARU CLERCOD

22Gwybodaeth a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgolion a gynhelirLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau y darperir, yn rhad ac am ddim, i bob llywodraethwr unrhyw wybodaeth y mae'r awdurdod lleol yn barnu ei bod yn briodol mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau llywodraethwr.

(2)Mae'r ddyletswydd hon yn gymwys i'r graddau nad yw'n ofynnol fel arall i'r awdurdod lleol sicrhau bod y cyfryw wybodaeth yn cael ei darparu.

(3)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau y darperir, yn rhad ac ddim, hyfforddiant rhagnodedig i lywodraethwyr rhagnodedig ysgolion a gynhelir.

(4)Caniateir i hyfforddiant gael ei ragnodi drwy gyfeirio at ddogfen a gyhoeddir, fel a bennir yn y rheoliadau, gan Weinidogion Cymru.

(5)Nid yw gofynion rheoliadau o dan is-adran (3) yn lleihau effaith y ddyletswydd a ganlyn.

(6)Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau bod unrhyw hyfforddiant y mae'n barnu ei fod yn angenrheidiol yn cael ei roi ar gael i bob llywodraethwr, yn rhad ac am ddim, er mwyn i swyddogaethau'r llywodraethwr gael eu cyflawni'n effeithiol.

(7)Yn yr adran hon, ystyr “llywodraethwr” yw llywodraethwr ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol.

(8)Yn adran 22 o Ddeddf Addysg 2002, ar ôl “authority” mewnosoder “in England”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 22 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)

I2A. 22 mewn grym ar 22.8.2013 gan O.S. 2013/2090, ergl. 2

23Dyletswydd awdurdodau lleol i ddarparu clercod i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelirLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru hysbysu, o dro i dro, bob corff y mae'n ofynnol iddo benodi clerc i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol o dan adran 23 o Ddeddf Addysg 2002 y caiff y corff hwnnw ofyn i'r awdurdod ddarparu person i'w benodi'n glerc.

(2)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol yng Nghymru ddarparu person i'w benodi os gwneir cais.

(3)Caiff y rheoliadau (ymhlith pethau eraill)—

(a)rhoi pŵer i awdurdod lleol godi ffi am ddarparu person (gan gynnwys pŵer i godi ffioedd gwahanol mewn achosion gwahanol);

(b)rhagnodi'r person y mae'n rhaid i'r ffi gael ei thalu drwyddo;

(c)darparu ar gyfer eithriadau ac esemptiadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 23 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)

I4A. 23 mewn grym ar 22.8.2013 gan O.S. 2013/2090, ergl. 2

24Hyfforddiant i glercod cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelirLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys mewn perthynas â chorff y mae'n ofynnol iddo benodi clerc i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru o dan adran 23 o Ddeddf Addysg 2002.

(2)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i'r corff sicrhau bod person a benodir yn glerc wedi cwblhau hyfforddiant rhagnodedig yn ôl safon ragnodedig.

(3)Caiff y rheoliadau—

(a)gwahardd penodi person nad yw wedi cwblhau'r hyfforddiant yn ôl y safon ofynnol;

(b)darparu bod person a benodwyd yn glerc, ac nad yw wedi cwblhau'r hyfforddiant, yn cwblhau'r hyfforddiant yn ôl y safon ofynnol o fewn cyfnod rhagnodedig;

(c)darparu ar gyfer terfynu penodiad clerc nad yw'n cwblhau'r hyfforddiant yn ôl y safon ofynnol o fewn y cyfnod hwnnw;

(d)rhagnodi hyfforddiant a safonau drwy gyfeirio at ddogfen a gyhoeddir, fel a bennir yn y rheoliadau, gan Weinidogion Cymru;

(e)darparu ar gyfer eithriadau ac esemptiadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 24 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)

I6A. 24 mewn grym ar 22.8.2013 gan O.S. 2013/2090, ergl. 2

25Dyletswydd awdurdodau lleol i sicrhau bod hyfforddiant ar gael i glercodLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau bod unrhyw hyfforddiant y mae'r awdurdod yn barnu ei fod yn angenrheidiol yn cael ei roi ar gael i bob person sy'n cael ei benodi'n glerc i alluogi'r corff a benododd y clerc o dan adran 23 o Ddeddf Addysg 2002 i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad o dan adran 24 o'r Mesur hwn.

(2)Caiff awdurdod lleol yng Nghymru godi ffi am unrhyw hyfforddiant a ddarperir (a chaiff godi ffioedd gwahanol mewn achosion gwahanol).

(3)Yn yr adran hon, ystyr “clerc” yw clerc i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 25 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)

I8A. 25 mewn grym ar 22.8.2013 gan O.S. 2013/2090, ergl. 2