RHAN 2LLYWODRAETHU YSGOLION
PENNOD 2HYFFORDDIANT I LYWODRAETHWYR A CHLERCOD A DARPARU CLERCOD
I1I522Gwybodaeth a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgolion a gynhelir
1
Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau y darperir, yn rhad ac am ddim, i bob llywodraethwr unrhyw wybodaeth y mae'r awdurdod lleol yn barnu ei bod yn briodol mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau llywodraethwr.
2
Mae'r ddyletswydd hon yn gymwys i'r graddau nad yw'n ofynnol fel arall i'r awdurdod lleol sicrhau bod y cyfryw wybodaeth yn cael ei darparu.
3
Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau y darperir, yn rhad ac ddim, hyfforddiant rhagnodedig i lywodraethwyr rhagnodedig ysgolion a gynhelir.
4
Caniateir i hyfforddiant gael ei ragnodi drwy gyfeirio at ddogfen a gyhoeddir, fel a bennir yn y rheoliadau, gan Weinidogion Cymru.
5
Nid yw gofynion rheoliadau o dan is-adran (3) yn lleihau effaith y ddyletswydd a ganlyn.
6
Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau bod unrhyw hyfforddiant y mae'n barnu ei fod yn angenrheidiol yn cael ei roi ar gael i bob llywodraethwr, yn rhad ac am ddim, er mwyn i swyddogaethau'r llywodraethwr gael eu cyflawni'n effeithiol.
7
Yn yr adran hon, ystyr “llywodraethwr” yw llywodraethwr ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol.
8
Yn adran 22 o Ddeddf Addysg 2002, ar ôl “authority” mewnosoder “in England”.
I2I623Dyletswydd awdurdodau lleol i ddarparu clercod i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir
1
Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru hysbysu, o dro i dro, bob corff y mae'n ofynnol iddo benodi clerc i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol o dan adran 23 o Ddeddf Addysg 2002 y caiff y corff hwnnw ofyn i'r awdurdod ddarparu person i'w benodi'n glerc.
2
Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol yng Nghymru ddarparu person i'w benodi os gwneir cais.
3
Caiff y rheoliadau (ymhlith pethau eraill)—
a
rhoi pŵer i awdurdod lleol godi ffi am ddarparu person (gan gynnwys pŵer i godi ffioedd gwahanol mewn achosion gwahanol);
b
rhagnodi'r person y mae'n rhaid i'r ffi gael ei thalu drwyddo;
c
darparu ar gyfer eithriadau ac esemptiadau.
I3I724Hyfforddiant i glercod cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir
1
Mae is-adran (2) yn gymwys mewn perthynas â chorff y mae'n ofynnol iddo benodi clerc i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru o dan adran 23 o Ddeddf Addysg 2002.
2
Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i'r corff sicrhau bod person a benodir yn glerc wedi cwblhau hyfforddiant rhagnodedig yn ôl safon ragnodedig.
3
Caiff y rheoliadau—
a
gwahardd penodi person nad yw wedi cwblhau'r hyfforddiant yn ôl y safon ofynnol;
b
darparu bod person a benodwyd yn glerc, ac nad yw wedi cwblhau'r hyfforddiant, yn cwblhau'r hyfforddiant yn ôl y safon ofynnol o fewn cyfnod rhagnodedig;
c
darparu ar gyfer terfynu penodiad clerc nad yw'n cwblhau'r hyfforddiant yn ôl y safon ofynnol o fewn y cyfnod hwnnw;
d
rhagnodi hyfforddiant a safonau drwy gyfeirio at ddogfen a gyhoeddir, fel a bennir yn y rheoliadau, gan Weinidogion Cymru;
e
darparu ar gyfer eithriadau ac esemptiadau.
I4I825Dyletswydd awdurdodau lleol i sicrhau bod hyfforddiant ar gael i glercod
1
Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau bod unrhyw hyfforddiant y mae'r awdurdod yn barnu ei fod yn angenrheidiol yn cael ei roi ar gael i bob person sy'n cael ei benodi'n glerc i alluogi'r corff a benododd y clerc o dan adran 23 o Ddeddf Addysg 2002 i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad o dan adran 24 o'r Mesur hwn.
2
Caiff awdurdod lleol yng Nghymru godi ffi am unrhyw hyfforddiant a ddarperir (a chaiff godi ffioedd gwahanol mewn achosion gwahanol).
3
Yn yr adran hon, ystyr “clerc” yw clerc i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol.