xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CCYDLAFURIO GAN GYRFF ADDYSG

1Cyrff addysgLL+C

At ddibenion y Rhan hon, ystyr “corff addysg” yw—

(a)awdurdod lleol yng Nghymru;

(b)corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru;

(c)corfforaeth addysg bellach (fel y diffinnir “further education corporation” gan adran 17(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992) yng Nghymru;

(d)corff llywodraethu sefydliad dynodedig (fel y diffinnir “designated institution” gan adran 28(4) o'r Ddeddf honno) yng Nghymru, sydd—

(i)yn gorff a ymgorfforwyd yn rhinwedd adran 143(5) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, a

(ii)yn darparu addysg lawnamser yn unig neu'n bennaf i bersonau sydd dros oedran ysgol gorfodol ond nad ydynt eto'n 19 oed.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)

I2A. 1 mewn grym ar 16.11.2012 gan O.S. 2012/2656, ergl. 2

2Amcan y cydlafurioLL+C

(1)Amcan y Rhan hon yw bod adnoddau cyhoeddus yn cael eu defnyddio'n effeithiol ac yn effeithlon gan gorff addysg mewn cysylltiad â darparu addysg a hyfforddiant sy'n addas at anghenion personau nad ydynt eto'n 19 oed.

(2)Cyfeirir at yr amcan hwn yn y Rhan hon fel “amcan y cydlafurio”.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 2 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)

I4A. 2 mewn grym ar 16.11.2012 gan O.S. 2012/2656, ergl. 2

3Dyletswydd corff addysg i gydlafurioLL+C

(1)Rhaid i gorff addysg ystyried o dro i dro a fyddai arfer ei bwerau cydlafurio yn hyrwyddo amcan y cydlafurio wrth iddo arfer ei swyddogaethau eraill.

(2)Os daw corff addysg i'r casgliad y byddai arfer pŵer cydlafurio yn hyrwyddo amcan y cydlafurio wrth iddo arfer ei swyddogaethau, rhaid iddo geisio arfer y pŵer, neu beri iddo gael ei arfer.

(3)Mae'r ddyletswydd yn is-adran (1) yn gymwys i'r cyrff a grybwyllir ym mharagraffau (c) a (d) o adran 1 i'r graddau y mae'n ymwneud â darparu addysg uwchradd ac addysg bellach sy'n addas at anghenion personau nad ydynt eto'n 19 oed.

(4)Nid yw'r ddyletswydd yn is-adran (1) yn lleihau effaith y dyletswyddau yn—

(a)adran 33K o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (cyflawni hawlogaethau cwricwlwm lleol ar gyfer myfyrwyr 16 i 18 oed: gweithio ar y cyd);

F1(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F2(c). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

[F3(d)adran 65 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.]

4Ystyr “pwerau cydlafurio”LL+C

At ddibenion y Rhan hon, ystyr “pwerau cydlafurio” yw—

(a)y pwerau yn adran 5;

(b)yn achos awdurdod lleol—

(i)ei bŵer i awdurdodi person (neu gyflogeion y person) i arfer swyddogaeth ar ran yr awdurdod o dan orchymyn a wnaed o dan adran 70 o Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994;

(ii)ei bŵer o dan adran 101(1)(b) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau awdurdodau lleol);

(iii)pŵer gweithrediaeth yr awdurdod (neu bwyllgor neu aelod penodedig o'r weithrediaeth) i wneud trefniadau ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau o dan reoliadau a wnaed o dan adran 19(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gweithrediaeth awdurdod lleol gan awdurdod lleol arall etc);

(iv)pŵer awdurdod i wneud trefniadau ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau o dan reoliadau a wnaed o dan adran 19(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau awdurdod lleol gan weithrediaeth etc awdurdod lleol arall).

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 4 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)

I8A. 4 mewn grym ar 16.11.2012 gan O.S. 2012/2656, ergl. 2

5Pwerau cydlafurioLL+C

(1)Mae gan gorff addysg y pwerau yn is-adran (2) er mwyn cyflawni neu ei gwneud yn hwylus i gyflawni—

(a)ei ddyletswydd o dan adran 3,

(b)ei ddyletswydd o dan adran 33K o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000,

(c)ei ddyletswydd o dan [F4adran 65 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021,]

(d)dyletswydd corff addysg arall o dan y darpariaethau hynny.

(2)Y pwerau yw—

(a)darparu cymorth ariannol (p'un ai ar ffurf grant neu fenthyciad) i unrhyw berson;

(b)ymrwymo i drefniadau neu gytundebau ag unrhyw berson;

(c)cydweithredu â'r person hwnnw, neu hwyluso neu gydgysylltu ei weithgareddau;

(d)arfer (p'un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd) unrhyw un neu rai o swyddogaethau unrhyw berson ar ran y person hwnnw;

(e)gwneud trefniadau i unrhyw un neu rai o swyddogaethau'r corff addysg gael ei gyflawni neu eu cyflawni gydag un neu ragor o gyrff addysg eraill, neu gan un neu ragor o gyrff addysg eraill;

(f)gwneud trefniadau i unrhyw un neu rai o swyddogaethau'r corff addysg gael ei gyflawni neu eu cyflawni gan gyd-bwyllgorau dau neu ragor o gyrff addysg;

(g)darparu staff, nwyddau, gwasanaethau neu lety i unrhyw berson;

(h)rhannu a defnyddio gwybodaeth er mwyn arfer unrhyw bwerau cydweithio.

(3)O ran y pwerau hyn—

(a)nid ydynt yn lleihau effaith unrhyw bwerau eraill corff addysg, a

(b)maent yn ddarostyngedig i ddarpariaeth a wneir o dan adran 6.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 5 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)

I10A. 5 mewn grym ar 16.11.2012 gan O.S. 2012/2656, ergl. 2

6Rheoliadau ynghylch y pŵer i gydlafurioLL+C

(1)Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer—

(a)yr amgylchiadau pan na fo'r ddyletswydd yn adran 3(1) yn gymwys;

(b)yr amgylchiadau pan na fo'n ofynnol i gorff addysg arfer pwerau cydlafurio, neu pan na chaniateir iddo eu harfer;

(c)swyddogaethau corff addysg na chaniateir eu dirprwyo o dan baragraffau (d), (e) ac (f) o adran 5(2);

(d)yr amodau y mae'n rhaid eu bodloni i arfer pwerau cydlafurio;

(e)y modd y mae swyddogaethau i'w cyflawni o dan drefniadau cydlafurio;

(f)unrhyw faterion eraill sy'n berthnasol i arfer pwerau cydlafurio.

(2)Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer y canlynol—

(a)bod cyrff addysg yn sefydlu cyd-bwyllgor o'r cyrff hynny at ddibenion trefniadau o dan adran 5(2)(f) (“cyd-bwyllgor”);

(b)penodi personau i wasanaethu ar gyd-bwyllgor (gan gynnwys darparu ynghylch y cyfyngiadau neu'r gofynion eraill sy'n ymwneud ag unrhyw benodiadau o'r fath) a'u diswyddo;

(c)penodi clerc i gyd-bwyllgor (gan gynnwys darparu ynghylch y cyfyngiadau neu'r gofynion eraill sy'n ymwneud ag unrhyw benodiad o'r fath) a diswyddo'r clerc;

(d)bod cyd-bwyllgor yn penodi un o'u plith i weithredu fel clerc at ddibenion cyfarfod pan fo'r clerc yn methu â bod yn bresennol;

(e)hawliau personau i fynychu cyfarfodydd cyd-bwyllgor;

(f)cyfyngiadau ar bersonau sy'n cymryd rhan mewn trafodion cyd-bwyllgor;

(g)diddymu cyd-bwyllgorau;

(h)is-bwyllgorau i gyd-bwyllgorau (gan gynnwys darpariaeth i swyddogaethau'r cyd-bwyllgor gael eu harfer gan is-bwyllgor a darpariaeth mewn perthynas ag is-bwyllgorau y caniateir ei gwneud mewn perthynas â chyd-bwyllgor o dan yr adran hon);

(i)materion eraill sy'n ymwneud â chyfansoddiad neu weithdrefn cyd-bwyllgor.

(3)Mae'r pŵer yn is-adran (4) yn gymwys mewn perthynas â'r canlynol—

(a)swyddogaethau'r cyrff addysg sydd i'w cyflawni o dan baragraffau (d), (e) ac (f) o adran 5(2);

(b)y cyrff addysg y mae'r swyddogaethau hynny i'w cyflawni ganddynt.

(4)Caiff rheoliadau ddarparu bod unrhyw ddeddfiad i gael effaith yn ddarostyngedig i'r holl addasiadau angenrheidiol yn y modd y mae'n gymwys mewn perthynas â'r swyddogaethau hynny a'r cyrff y maent i'w cyflawni ganddynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 6 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)

I12A. 6 mewn grym ar 16.11.2012 gan O.S. 2012/2656, ergl. 2

7CanllawiauLL+C

Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i gorff addysg roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir o dro i dro gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 7 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)

I14A. 7 mewn grym ar 16.11.2012 gan O.S. 2012/2656, ergl. 2

8Dehongli'r Rhan honLL+C

Yn y Rhan hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 8 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)

I16A. 8 mewn grym ar 16.11.2012 gan O.S. 2012/2656, ergl. 2

9Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadolLL+C

(1)Yn adran 57(5A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, yn lle “make collaboration arrangements (within the meaning of section 166 of the Education and Inspections Act 2006) with such bodies” rhodder “exercise powers under section 5(2)(b) to (f) and (h) of the Education (Wales) Measure 2011 to collaborate with such persons”.

(2)Yn adran 33K(5) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000—

(a)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)arrangements made in exercise of the powers of collaboration described in section 4 of the Education (Wales) Measure 2011.;

(b)hepgorer paragraffau (c) a (d).

(3)Yn Neddf Addysg 2002—

(a)yn adran 26(a), ar ôl “schools” mewnosoder “in England”;

F5(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4)Yn adran 166(6) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006—

(a)yn y diffiniad o “further education body”—

(i)ar ôl “(c.13))” mewnosoder “in England”;

(ii)ar ôl “section 28(4) of that Act)” mewnosoder “in England”;

(b)yn y diffiniad o “maintained school” ar ôl “means” mewnosoder “a school in England which is”;

(c)yn y diffiniad o “regulations” hepgorer “or the Assembly (in relation to Wales)”.

Diwygiadau Testunol

F5A. 9(3)(b) wedi ei hepgor (30.4.2021) yn rhinwedd Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (asc 4), a. 84(1), Atod. 2 para. 67 (ynghyd â savings ac transitional provisions in O.S. 2022/111, rhlau. 1, 3)

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 9 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)

I18A. 9 mewn grym ar 16.11.2012 gan O.S. 2012/2656, ergl. 2