6.Rhan 1 o’r Mesur yn rhoi swyddogaethau i gyrff addysg mewn cysylltiad â threfniadau i gydlafurio. Yn yr adran hon diffinnir cyrff addysg fel awdurdod lleol, corff llywodraethu ysgol a gynhelir, corfforaeth addysg bellach, a sefydliad addysg bellach a ddynodwyd o dan adran 28(4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.
7.Mae’r adran hon yn pennu amcan Rhan 1 o’r Mesur, sef sicrhau y defnyddir adnoddau cyhoeddus yn effeithiol ac effeithlon mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant hyd at 19 oed (“amcan y cydlafurio”).
8.Mae is-adran (1) yn gosod dyletswydd ar gorff addysg i ystyried o bryd i’w gilydd, wrth arfer ei swyddogaethau eraill, a fyddai arfer ei bwerau cydlafurio yn hyrwyddo amcan y cydlafurio. Yr hyn a gynhwysir yn swyddogaethau eraill awdurdod lleol yw ei swyddogaethau addysg yn unig (gweler y diffiniad o “swyddogaethau” yn adran 8). Os yw’n ystyried y byddai cydlafurio’n cyflawni’r amcan, rhaid i’r corff addysg geisio arfer ei bwerau cydlafurio (is-adran (2)).
9.Mae is-adran (3) yn cyfyngu’r ddyletswydd o ystyried cydlafurio, a osodir ar sefydliadau addysg bellach, i’r ddarpariaeth o addysg i rai hyd at 19 oed.
10.Mae adran 4 yn diffinio ystyr y “pwerau cydlafurio” a roddir i gyrff addysg. Yn achos pob corff addysg y pwerau yn adran 5 yw’r rhain ac yn achos awdurdodau lleol, mae’r rhain yn cynnwys hefyd bwerau mewn deddfwriaeth arall.
11.Mae’r adran hon yn rhoi pwerau eang i gyrff addysg i’w galluogi i gydlafurio, at y diben o gyflawni, neu hwyluso cyflawni, eu dyletswyddau o dan adran 3 o’r Mesur, adran 33K o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 ac adran 116J o Ddeddf Addysg 2002, neu ddyletswydd corff addysg arall o dan y darpariaethau hynny. Mae adran 33K o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 ac adran 116J o Ddeddf Addysg 2002 yn gosod dyletswyddau mewn perthynas â chyflenwi’r cwricwlwm lleol.
12.Mae adran 5 yn caniatáu i gorff addysg gydlafurio â chorff addysg arall i hwyluso cyflawni dyletswyddau’r corff addysg arall hwnnw, pa un a fyddai hynny’n hwyluso cyflawni ei ddyletswyddau’i hunan ai peidio.
13.Mae’r pwerau cydlafurio’n cynnwys pwerau i ddirprwyo swyddogaethau ac i drefnu i gyd-bwyllgorau gyflawni eu swyddogaethau.
14.Er bod y Mesur yn rhoi’r un pwerau i bob math o gorff addysg a gwmpesir gan y Mesur, nid yw’n galluogi nac yn gorfodi cyrff eraill i gydlafurio gyda chorff addysg. Mae’n bosibl, fodd bynnag, y caiff cyrff o’r fath wneud hynny o dan eu pwerau presennol.
15.Mae is-adran (3) yn darparu na fydd y pwerau newydd hyn yn effeithio ar bwerau unrhyw gorff addysg mewn unrhyw ddeddfwriaeth arall, ac y cyfyngir ar y pwerau newydd hyn gan unrhyw reoliadau a wneir o dan adran 6.
16.Mae is-adran (1) yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth bellach drwy gyfrwng rheoliadau ynghylch y pŵer i gydlafurio. Gallai rheoliadau o dan yr is-adran hon bennu, er enghraifft, pa swyddogaethau na chaiff corff addysg eu dirprwyo i gorff arall neu gyd-bwyllgor.
17.Mae is-adran (2) yn darparu y caiff rheoliadau wneud darpariaeth benodol ynglŷn â chyfansoddiad a gweithdrefn cyd-bwyllgorau o’r cyrff addysg sy’n cydlafurio, a materion cysylltiedig eraill.
18.Mae is-adrannau (3) a (4) yn darparu y caiff rheoliadau addasu unrhyw ddeddfwriaeth mewn perthynas â swyddogaethau’r cyrff addysg sy’n cydlafurio, pan fo’r swyddogaethau hynny wedi eu dirprwyo, neu mewn perthynas â’r cyrff sydd i gyflawni’r swyddogaethau hynny, o ran y modd y cymhwysir y ddeddfwriaeth i’r swyddogaethau neu’r cyrff hynny. Hwyrach y bydd angen addasu’r ddeddfwriaeth i adlewyrchu’r ffaith mai corff arall neu gyd-bwyllgor fydd yn cyflawni swyddogaeth benodol mewn gwirionedd (yn lle, neu’n ogystal â’r corff addysg y rhoddwyd y swyddogaeth iddo).
19.Mae adran 7 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau am gydlafurio y bydd rhaid i gyrff addysg roi sylw iddynt.
20.Mae’r adran hon yn diffinio’r termau a ddefnyddir yn Rhan 1 o’r Mesur.
21.Mae adran 9 yn diddymu, i’r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, adran 26 o Ddeddf Addysg 2002 ac adran 166 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006. Roedd yr adrannau hynny’n darparu ar gyfer gwneud rheoliadau i ganiatáu cydlafurio rhwng ysgolion, cydlafurio rhwng cyrff addysg bellach, a rhwng ysgolion a chyrff addysg bellach. Disodlwyd yr adrannau hynny bellach, o ran Cymru, gan ddarpariaethau Rhan 1 o’r Mesur, sy’n gosod dyletswyddau mewn perthynas â chydweithio. Mae adran 9 yn gwneud diwygiadau canlyniadol eraill yn ogystal.