9Pŵer mynediad
“14IPŵer mynediad
(1)
Mae'r adran hon yn gymwys i—
(a)
cerbyd neu unrhyw fangre dan berchnogaeth neu reolaeth corff perthnasol;
(b)
cerbyd neu fangre sy'n dod o fewn is-adran (2).
(2)
Cerbyd neu fangre sy'n dod o fewn yr is-adran hon yw—
(a)
y rhai a ddefnyddir, neu y bwriedir eu defnyddio, gan unrhyw berson mewn cysylltiad â darparu cludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan gorff perthnasol, neu
(b)
y rhai y mae arolygydd yn credu yn rhesymol eu bod yn cael eu defnyddio felly, neu y bwriedir eu defnyddio felly.
(3)
Caiff arolygydd ar unrhyw adeg resymol—
(a)
cadw cerbyd yn gaeth;
(b)
mynd i gerbyd neu fangre.
(4)
Ond nid yw'r pŵer yn is-adran (3) yn cynnwys y pŵer i fynd i fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf yn annedd breifat.
(5)
Rhaid i arolygydd sy'n arfer unrhyw bŵer a roddir o dan is-adran (3) neu adran 14J, os bydd yn ofynnol iddo wneud hynny, ddangos dogfen a awdurdodwyd yn briodol sy'n dangos bod gan yr arolygydd yr awdurdod i wneud felly.”.