9Pŵer mynediad
Ar ôl adran 14H o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—
14IPŵer mynediad
1
Mae'r adran hon yn gymwys i—
a
cerbyd neu unrhyw fangre dan berchnogaeth neu reolaeth corff perthnasol;
b
cerbyd neu fangre sy'n dod o fewn is-adran (2).
2
Cerbyd neu fangre sy'n dod o fewn yr is-adran hon yw—
a
y rhai a ddefnyddir, neu y bwriedir eu defnyddio, gan unrhyw berson mewn cysylltiad â darparu cludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan gorff perthnasol, neu
b
y rhai y mae arolygydd yn credu yn rhesymol eu bod yn cael eu defnyddio felly, neu y bwriedir eu defnyddio felly.
3
Caiff arolygydd ar unrhyw adeg resymol—
a
cadw cerbyd yn gaeth;
b
mynd i gerbyd neu fangre.
4
Ond nid yw'r pŵer yn is-adran (3) yn cynnwys y pŵer i fynd i fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf yn annedd breifat.
5
Rhaid i arolygydd sy'n arfer unrhyw bŵer a roddir o dan is-adran (3) neu adran 14J, os bydd yn ofynnol iddo wneud hynny, ddangos dogfen a awdurdodwyd yn briodol sy'n dangos bod gan yr arolygydd yr awdurdod i wneud felly.