5Hyfforddi gyrwyr
Ar ôl adran 14D o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—
“14EHyfforddi gyrwyr
(1)
Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i gorff perthnasol sy'n darparu neu yn sicrhau fel arall bod cludiant i ddysgwyr yn cael ei ddarparu sicrhau bod gyrwyr cerbydau a ddefnyddir at y cyfryw gludiant wedi cwblhau hyfforddiant rhagnodedig i safon ragnodedig.
(2)
Caniateir rhagnodi hyfforddiant a safonau drwy gyfeirio at ddogfen a gyhoeddir, fel a bennir yn y rheoliadau, gan Weinidogion Cymru.
(3)
Yn yr adran hon ystyr “hyfforddiant” yw hyfforddiant am ddiogelwch ar gludiant i ddysgwyr a gweithio gyda phlant.”.