4Asesiad risg diogelwch o gludiant i ddysgwyrLL+C

Ar ôl adran 14C o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—

14DAsesiad risg diogelwch o gludiant i ddysgwyr

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i gorff perthnasol gynnal asesiadau risg diogelwch o'r cludiant i ddysgwyr y mae yn ei ddarparu neu yn ei sicrhau fel arall.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)—

(a)gosod gofynion ynghylch natur yr asesiad i'w gynnal;

(b)ei gwneud yn ofynnol i lunio a chyhoeddi adroddiadau;

(c)rhagnodi ffurf a dull y cyhoeddi;

(d)rhagnodi pa mor aml y mae'n rhaid cynnal yr asesiadau..

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 4 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 16(2)