14 Dehongli
“14NDehongli adrannau 14A i 14K
(1)
Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion adrannau 14A i 14K.
(2)
Mae pob un o'r canlynol yn “gorff perthnasol”—
(a)
awdurdod lleol;
(b)
corff llywodraethu ysgol a gynhelir.
(3)
Ystyr “cludiant i ddysgwyr” yw cludiant i'w gwneud yn hwylus i blentyn fynychu unrhyw fan perthnasol lle y caiff addysg neu hyfforddiant; ond nid yw'n cynnwys cludiant a ddarperir er mwyn teithio yn ystod y dydd rhwng mannau perthnasol neu rhwng safleoedd gwahanol o'r un sefydliad.
(4)
Nid yw'r weithred o wneud unrhyw un o'r trefniadau a ganlyn i'w hystyried, ynddi'i hun, fel petai'n darparu cludiant i ddysgwyr neu'n sicrhau fel arall bod cludiant i ddysgwyr yn cael ei ddarparu.
(5)
Y trefniadau a grybwyllir yn is-adran (4) yw—
(a)
trefniadau i dalu'r cyfan neu unrhyw ran o dreuliau teithio rhesymol person;
(b)
trefniadau i dalu lwfansau mewn cysylltiad â defnyddio cludiant.
(6)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio is-adran (3) yn y fath fodd ag i hepgor y geiriau o “ond nid yw'n cynnwys” hyd at ddiwedd yr is-adran.”.