Mesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011
2011 mccc 6
Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddarparu am ddiogelwch ar gludiant a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan awdurdodau lleol neu gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir at ddibenion sicrhau bod plant yn mynychu mannau lle y cânt eu haddysgu neu eu hyfforddi; ac at ddibenion cysylltiedig.
Mae'r Mesur hwn, a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 22 Mawrth 2011 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor ar 10 Mai 2011, yn deddfu'r darpariaethau a ganlyn:—