RHAN 2LANDLORDIAID CYMDEITHASOL COFRESTREDIG
PENNOD 5DARPARIAETHAU AMRYWIOL A CHYFFREDINOL
85Penodi swyddogion newydd
(1)
Diwygier Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1996 fel a ganlyn.
(2)
Yn y pennawd i baragraff 6, yn lle “director or trustee” rhodder “officer”.
(3)
Ym mharagraff 6 (elusen gofrestredig: pŵer i benodi swyddog newydd)—
(a)
yn is-baragraff (1), yn lle “a director or trustee” rhodder “an officer”;
(b)
ym mharagraff (b) o is-baragraff (1), yn lle “no directors or no trustees” rhodder “no officers”;
(c)
yn mharagraff (c) o is-baragraff (1), yn lle “director or trustee” rhodder “officer”;
(d)
yn ail frawddeg is-baragraff (1), yn lle “directors or trustees” rhodder “officers”;
(e)
yn is-baragraff (5), yn lle “director or trustee” rhodder “an officer”.
(4)
Yn y pennawd i baragraff 7, yn lle “director” rhodder “officer”.
(5)
Ym mharagraff 7 (cwmni: pŵer i benodi swyddog newydd)—
(a)
yn is-baragraff (1), yn lle “a director” y ddau dro y mae'n digwydd rhodder “an officer”;
(b)
ym mharagraff (b) o is-baragraff (1), yn lle “no directors” rhodder “no officers”;
(c)
ym mharagraff (c) o is-baragraff (1), yn lle “director” rhodder “officer”.
(6)
Yn y pennawd i baragraff 8, yn lle “new committee member” rhodder “officer”.
(7)
Ym mharagraff 8 (cymdeithas ddiwydiannol a darbodus: pŵer i benodi swyddog newydd)—
(a)
yn is-baragraff (1), yn lle “a committee member” rhodder “an officer”;
(b)
ym mharagraff (b) o is-baragraff (1), yn lle “no members of the committee” rhodder “no officers”;
(c)
ym mharagraff (c) o is-baragraff (1), yn lle “committee member” rhodder “officer”;
(d)
yn ail frawddeg is-baragraff (1), yn lle “committee members” rhodder “officers”.