RHAN 1ATAL DROS DRO YR HAWL I BRYNU A HAWLIAU CYSYLLTIEDIG

PENNOD 7AMRYWIOL

34Gorchmynion canlyniadol etc

1

Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn wneud y cyfryw ddarpariaeth ag a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Rhan hon, neu er mwyn rhoi effaith lawn i'r ddarpariaeth honno.

2

Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn wneud y cyfryw ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn briodol ar gyfer cymhwyso neu ymestyn unrhyw ddarpariaeth a wnaed gan y Rhan hon (gydag addasiadau neu hebddynt) i unrhyw ddarpariaeth ynghylch neu sy'n berthynol i hawl sy'n gysylltiedig â'r hawl i brynu.

3

Mae'r pwerau o dan is-adrannau (1) a (2) yn cynnwys gwneud darpariaeth sy'n diwygio, yn diddymu neu'n dirymu unrhyw ddarpariaeth (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt)—

a

mewn unrhyw Ddeddf Seneddol neu Fesur Cynulliad Cymru (gan gynnwys y Mesur hwn), a

b

mewn is-ddeddfwriaeth.

4

Yn yr adran hon mae i “is-ddeddfwriaeth” yr un ystyr ag sydd i “subordinate legislation” yn Neddf Dehongli 1978.