RHAN 1ATAL DROS DRO YR HAWL I BRYNU A HAWLIAU CYSYLLTIEDIG

PENNOD 7AMRYWIOL

33Dehongli Rhan 1

(1)

Onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae i ymadrodd a ddefnyddir yn y Rhan hon sy'n cyfateb i ymadrodd Saesneg yn Neddf Tai 1985 yr un ystyr yn y Rhan hon ag sydd i'r ymadrodd cyfatebol Saesneg yn y Ddeddf honno.

(2)

At ddibenion y Rhan hon—

ystyr “awdurdod tai lleol” (“local housing authority”) yw awdurdod tai lleol yng Nghymru;

mae i “cyflwr o bwysau oherwydd prinder tai” (“housing pressure condition”) yr ystyr a roddir gan adran 1(2);

mae i “hawliau cysylltiedig” (“related rights”) yr ystyr a roddir i “hawliau sy'n gysylltiedig â'r hawl i brynu” (gweler adran 1(3));

ystyr “tai cymdeithasol” (“social housing”) yw unrhyw dai a ddarperir gan ddarparydd tai cymdeithasol.

(3)

At ddibenion y Rhan hon, ystyr “tŷ annedd perthnasol”, mewn perthynas â chais am gyfarwyddyd, neu gyfarwyddyd a ddyroddwyd, o dan y Rhan hon yw—

(a)

tŷ annedd—

(i)

y mae ei landlord yn ddarparydd tai cymdeithasol, a

(ii)

y mae gan y tenant iddo yr hawl i brynu, neu hawl sy'n gysylltiedig â'r hawl i brynu, neu fe fyddai ganddo hawl o'r fath petai'n bodloni'r amodau sy'n arwain at hawl o'r fath, a

(b)

mae'n cynnwys tŷ annedd sy'n bodloni gofynion paragraff (a) ar ôl y dyddiad y gwneir y cais am gyfarwyddyd ar ei gyfer.

(4)

At ddibenion y Rhan hon, ystyr “darparydd tai cymdeithasol” yw—

(a)

awdurdod lleol, a

(b)

person (heblaw awdurdod lleol)—

(i)

sy'n darparu tai, neu

(ii)

y mae ganddo swyddogaethau sy'n ymwneud â dyrannu tai,

ar gyfer pobl nad yw'r farchnad dai fasnachol yn diwallu eu hanghenion yn ddigon da;

ond mae awdurdod lleol neu'r cyfryw berson arall yn ddarparydd tai cymdeithasol dim ond i'r graddau y mae'n darparu tai, neu fod ganddo swyddogaethau sy'n ymwneud â dyrannu tai.