RHAN 1ATAL DROS DRO YR HAWL I BRYNU A HAWLIAU CYSYLLTIEDIG

PENNOD 2AMRYWIO CYFARWYDDYD I ATAL DROS DRO YR HAWL I BRYNU A HAWLIAU CYSYLLTIEDIG

13Dyroddi cyfarwyddyd a amrywiwyd i gynnwys elfennau ehangu

(1)

Pan fo Gweinidogion Cymru yn caniatáu cais awdurdod tai lleol o dan adran 12, rhaid iddynt ddyroddi yn ysgrifenedig gyfarwyddyd a amrywiwyd—

(a)

sy'n dynodi'n eglur yr ardal y mae'n gymwys iddi;

(b)

sy'n datgan a yw'r cyfarwyddyd yn gymwys i bob tŷ annedd perthnasol o fewn yr ardal honno ai peidio;

(c)

os nad yw'r cyfarwyddyd yn gymwys i bob tŷ annedd perthnasol o fewn yr ardal honno, sy'n disgrifio'n eglur y math neu'r mathau o dŷ annedd perthnasol y mae'n gymwys iddo neu iddynt;

(d)

sy'n datgan y cyfnod y mae i gael effaith ynddo.

(2)

Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â dyroddi cyfarwyddyd o dan yr adran hon sy'n wahanol mewn unrhyw ddull sylweddol i'r drafft o'r cyfarwyddyd sydd yng nghais yr awdurdod tai lleol yn unol ag adran 10(2)(a).