RHAN 1ATAL DROS DRO YR HAWL I BRYNU A HAWLIAU CYSYLLTIEDIG

PENNOD 2AMRYWIO CYFARWYDDYD I ATAL DROS DRO YR HAWL I BRYNU A HAWLIAU CYSYLLTIEDIG

11Ystyriaeth gan Weinidogion Cymru o gais am amrywiad ehangu

(1)

Os yw Gweinidogion Cymru o'r farn bod cais awdurdod tai lleol am amrywiad ehangu yn bodloni gofynion adran 10, rhaid iddynt ystyried y cais.

(2)

Os yw Gweinidogion Cymru o'r farn nad yw cais yn bodloni gofynion adran 10, rhaid iddynt wrthod ystyried y cais, onid ydynt o'r farn bod y methiant i gydymffurfio â'r gofynion yn ddibwys neu'n ddiarwyddocâd, ac os felly caniateir iddynt ystyried y cais.

(3)

Mae'n rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu awdurdod yn ysgrifenedig—

(a)

os ydynt dan rwymedigaeth o dan is-adran (1) i ystyried cais am amrywiad ehangu;

(b)

os ydynt yn penderfynu o dan is-adran (2) ystyried cais o'r fath, neu

(c)

os ydynt dan rwymedigaeth o dan is-adran (2) i wrthod ystyried cais.

(4)

Mae'r diwrnod ar ôl y diwrnod yr anfonwyd hysbysiad o dan is-adran (3)(a) neu (b) i'w drin fel y dyddiad y penderfynodd Gweinidogion Cymru ystyried y cais.

(5)

Os bydd awdurdod tai lleol yn darparu gwybodaeth bellach o dan adran 27 cyn bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu ystyried cais, mae'r wybodaeth honno i'w thrin fel petai'n ffurfio rhan o'r cais.