RHAN 1ATAL DROS DRO YR HAWL I BRYNU A HAWLIAU CYSYLLTIEDIG
PENNOD 1CYFARWYDDIADAU I ATAL DROS DRO YR HAWL I BRYNU A HAWLIAU CYSYLLTIEDIG
1Pŵer i wneud cais am gyfarwyddyd i atal dros dro yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig
(1)
Caiff awdurdod tai lleol wneud cais i Weinidogion Cymru am gyfarwyddyd i atal dros dro yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig yn ei ardal am gyfnod o hyd at bum mlynedd—
(a)
os yw'r awdurdod, o fewn y cyfnod o chwe mis sy'n rhagflaenu'r cais, wedi cwblhau ymgynghoriad yn unol ag adran 2, a
(b)
os, yng ngoleuni'r ymgynghoriad hwnnw, ac ar ôl ystyried unrhyw wybodaeth berthnasol arall, daw'r awdurdod i'r casgliad bod y cyflwr a ddisgrifir yn is-adran (2) yn bodoli.
(2)
Y cyflwr (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel y “cyflwr o bwysau oherwydd prinder tai”) yw—
(a)
o fewn ardal yr awdurdod tai lleol, bod y galw am dai cymdeithasol yn sylweddol uwch neu'n debygol o fod yn sylweddol uwch na'r cyflenwad o dai cymdeithasol, a
(b)
bod yr anghydbwysedd hwnnw rhwng y galw a'r cyflenwad yn debygol o gynyddu o ganlyniad i arfer yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig.
(3)
At ddibenion y Rhan hon, mae'r canlynol yn hawliau sy'n gysylltiedig â'r hawl i brynu—
(a)
yr hawl i brynu fel y'i hestynnwyd o dan adran 171 o Ddeddf Tai 1985;
(b)
yr hawl i brynu a gadwyd o dan adran 171A o Ddeddf Tai 1985;
(c)
yr hawl i gaffael o dan adran 16 o Ddeddf Tai 1996;
(d)
yr hawl i gaffael fel y'i hestynnwyd o dan adran 16A o Ddeddf Tai 1996.
(4)
Caiff awdurdod tai lleol ddod i'r casgliad fod paragraff (a) o is-adran (2) wedi ei fodloni—
(a)
mewn cysylltiad â'r holl dai cymdeithasol yn ei ardal;
(b)
mewn cysylltiad â'r holl dai cymdeithasol mewn rhan neu rannau penodol o'i ardal;
(c)
mewn cysylltiad â mathau penodol o dai cymdeithasol (p'un ai drwy ei ardal gyfan neu mewn rhan neu rannau penodol o'i ardal).
(5)
At ddibenion y Rhan hon, caniateir dynodi math o dai cymdeithasol drwy gyfeirio at unrhyw un neu ragor o'r canlynol, neu at unrhyw gyfuniad ohonynt—
(a)
anghenion arbennig tenantiaid;
(b)
disgrifiad o dŷ annedd;
(c)
math o ddarparydd tai cymdeithasol (a allai gynnwys darparydd penodol).