RHAN 3DARPARIAETHAU ATODOL A DARPARIAETHAU TERFYNOL

89Gorchmynion

(1)

Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn o dan y Mesur hwn—

(a)

yn arferadwy drwy offeryn statudol;

(b)

yn cynnwys pŵer—

(i)

i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol achosion, ardaloedd, awdurdodau a disgrifiadau o awdurdod;

(ii)

i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol;

(iii)

i wneud y cyfryw ddarpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol, ddarfodol, drosiannol neu arbed ag y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda ei gwneud.

F1(2)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1(3)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F1(4)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

90Cychwyn

(1)

Mae'r Rhan hon o'r Mesur yn dod i rym ar ddiwedd cyfnod o ddeufis sy'n dechrau ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.

(2)

Daw darpariaethau eraill y Mesur hwn i rym yn unol â darpariaeth a wnaed gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn, a chaiff gorchymyn ddarparu bod y darpariaethau hynny'n dod i rym ar ddiwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.

Annotations:
Commencement Information

I2A. 90 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 90(1)

91Enw byr

Enw'r Mesur hwn yw Mesur Tai (Cymru) 2011.