Nodyn Esboniadol

Mesur (Tai) Cymru 2011

5

Cyflwyniad

1.Ar gyfer Mesur Tai (Cymru) 2011 (“y Mesur ”) a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”) ar 22 Mawrth 2011 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn ei Chyngor ar 10 Mai 2011 y mae'r Nodiadau Esboniadol hyn. Fe'u paratowyd gan Gyfarwyddiaeth Tai Llywodraeth Cynulliad Cymru i fod o gymorth i ddeall y Mesur.  Nid ydynt yn rhan o'r Mesur ac ni chawsant eu cymeradwyo gan y Cynulliad. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ochr yn ochr â'r Mesur.  Ni fwriedir iddynt fod yn ddisgrifiad cynhwysfawr o'r Mesur.  Os ymddengys, felly, nad oes angen unrhyw esboniad ar adran neu ran o adran, nis rhoddir.

2.Mae Rhan 1 o'r Mesur yn caniatáu i awdurdod tai lleol (“yr awdurdod”) wneud cais i Weinidogion Cymru i atal dros dro yr Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig ar gyfer y cyfan neu ran o ardal yr awdurdod, am gyfnod o hyd at 5 mlynedd i ddechrau a chaiff yr awdurdod wneud cais am estyniad i'r cyfnod hwnnw. Mae cymhwystra'r Cynulliad i ddeddfu ar y mater hwn i'w ganfod ym Mater 11.5 o Faes 11 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) (“DLlC 2006”).  Mewnosodwyd Mater 11.5 ym Maes 11 o Atodlen 5 gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Tai a Llywodraeth Leol) a wnaed ar 21 Gorffennaf 2010.

3.Mae Rhan 2 o’r Mesur yn rhoi i Weinidogion Cymru bwerau rheoleiddiol ehangach a phwerau i ymyrryd ynghylch darparu tai gan Landlordiaid Cymdeithasol cofrestredig. Mae cymhwysedd y Cynulliad i Ddeddfu ar y mater hwn i’w ganfod ym Materion 11.2 ac 11.3 o Faes 11 o Atodlen 5 i DLlC 2006 Mewnosodwyd Materion 11.2 ac 11.3 ym Maes 11 o Atodlen 5 gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Tai a Llywodraeth Leol) 2010.

4.Mae 3 Rhan i’r Mesur, sef:

Rhoddir isod esboniad ar bob Rhan yn ei thro.