Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Rhn. 6 Pnd. 2 title wedi eu mewnosod (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 2; O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
(1)Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Bennod hon ac yn Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (neu mewn offeryn a wneir o dan y Rhan honno o'r Ddeddf honno) yr un ystyr yn y Bennod hon â'r ystyr sydd i'r ymadroddion cyfatebol Saesneg yn y Rhan honno o'r Ddeddf honno (neu sydd i'r ymadroddion Cymraeg neu i'r ymadroddion cyfatebol Saesneg yn yr offeryn hwnnw).
(2)Yn y Bennod hon—
ystyr “aelod hŷn awdurdod lleol” (“senior member of a local authority”) yw—
yn achos awdurdod lleol sy'n gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru), yr arweinydd gweithrediaeth;
yn achos awdurdod lleol sy'n gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet, y maer;
F2...
F3...
[F4“ystyr “lleygwr” (“lay person”) yw person—
nad yw’n aelod nac yn swyddog o unrhyw awdurdod lleol,
nad yw, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o ddeuddeg mis sy’n dod i ben â’r dyddiad y penodir y person hwnnw, wedi bod yn aelod nac yn swyddog o unrhyw awdurdod lleol, ac
nad yw’n briod nac yn bartner sifil i aelod na swyddog o unrhyw awdurdod lleol;]
F5(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn a. 87(2) wedi eu hepgor (1.4.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 9; O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
F3Geiriau yn a. 87(2) wedi eu hepgor (5.5.2022) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 117, 175(7); O.S. 2021/297, ergl. 3(b)
F4Geiriau yn a. 87(2) wedi eu mewnosod (5.5.2022) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 117, 175(7); O.S. 2021/297, ergl. 3(b)
F5A. 87(3) wedi ei diddymu (10.7.2011) gan Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (nawm 4), aau. 36(2), 178(2), Atod. 4 Rhn. B (ynghyd ag a. 36(5)-(8))
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 87 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)