RHAN 6TROSOLWG A CHRAFFU
PENNOD 2PWYLLGORAU LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO
87Dehongli etc
(1)
Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Bennod hon ac yn Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (neu mewn offeryn a wneir o dan y Rhan honno o'r Ddeddf honno) yr un ystyr yn y Bennod hon â'r ystyr sydd i'r ymadroddion cyfatebol Saesneg yn y Rhan honno o'r Ddeddf honno (neu sydd i'r ymadroddion Cymraeg neu i'r ymadroddion cyfatebol Saesneg yn yr offeryn hwnnw).
(2)
Yn y Bennod hon—
ystyr “aelod hŷn awdurdod lleol” (“senior member of a local authority”) yw—
(a)
yn achos awdurdod lleol sy'n gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru), yr arweinydd gweithrediaeth;
(b)
yn achos awdurdod lleol sy'n gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet, y maer;
F1...
F2...
F3“ystyr “lleygwr” (“lay person”) yw person—
(a)
nad yw’n aelod nac yn swyddog o unrhyw awdurdod lleol,
(b)
nad yw, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o ddeuddeg mis sy’n dod i ben â’r dyddiad y penodir y person hwnnw, wedi bod yn aelod nac yn swyddog o unrhyw awdurdod lleol, ac
(c)
nad yw’n briod nac yn bartner sifil i aelod na swyddog o unrhyw awdurdod lleol;
F4(3)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .