RHAN 6TROSOLWG A CHRAFFU
PENNOD 2PWYLLGORAU LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO
86Terfynu aelodaeth pan fo person yn peidio â bod yn aelod o awdurdod
(1)
Mae'r adran hon yn gymwys i berson (P)—
(a)
a benodir yn aelod o bwyllgor F1llywodraethu ac archwilio awdurdod lleol, a
(b)
sy'n aelod o'r awdurdod ar adeg y penodiad hwnnw.
(2)
Os yw P yn peidio â bod yn aelod o'r awdurdod, mae P hefyd yn peidio â bod yn aelod o'r pwyllgor F2llywodraethu ac archwilio.
(3)
Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os bydd P—
(a)
yn peidio â bod yn aelod o'r awdurdod oherwydd iddo ymddeol, a
(b)
yn cael ei ailethol yn aelod o'r awdurdod heb fod yn hwyrach na diwrnod ei ymddeoliad.
(4)
Mae is-adran (3) yn ddarostyngedig i reolau sefydlog yr awdurdod neu rai'r pwyllgor F3llywodraethu ac archwilio.