RHAN 6TROSOLWG A CHRAFFU

PENNOD 2PWYLLGORAU F4LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO

Annotations:
Amendments (Textual)

I186Terfynu aelodaeth pan fo person yn peidio â bod yn aelod o awdurdod

1

Mae'r adran hon yn gymwys i berson (P)—

a

a benodir yn aelod o bwyllgor F1llywodraethu ac archwilio awdurdod lleol, a

b

sy'n aelod o'r awdurdod ar adeg y penodiad hwnnw.

2

Os yw P yn peidio â bod yn aelod o'r awdurdod, mae P hefyd yn peidio â bod yn aelod o'r pwyllgor F2llywodraethu ac archwilio.

3

Ond nid yw is-adran (2) yn gymwys os bydd P—

a

yn peidio â bod yn aelod o'r awdurdod oherwydd iddo ymddeol, a

b

yn cael ei ailethol yn aelod o'r awdurdod heb fod yn hwyrach na diwrnod ei ymddeoliad.

4

Mae is-adran (3) yn ddarostyngedig i reolau sefydlog yr awdurdod neu rai'r pwyllgor F3llywodraethu ac archwilio.