RHAN 6TROSOLWG A CHRAFFU

PENNOD 2PWYLLGORAU LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO

84Cynnal cyfarfodydd: pa mor aml

(1)

Rhaid i bwyllgor F1llywodraethu ac archwilio gyfarfod unwaith ym mhob blwyddyn galendr.

(2)

Rhaid i bwyllgor F2llywodraethu ac archwilio awdurdod lleol gyfarfod hefyd—

(a)

os yw'r awdurdod lleol yn penderfynu y dylai'r pwyllgor gyfarfod, neu

(b)

os yw traean o leiaf o aelodau o'r pwyllgor yn hawlio cyfarfod drwy gyfrwng un neu ragor o hysbysiad ysgrifenedig a roddir i'r person sy'n cadeirio'r pwyllgor.

F3(2A)

Os yw dau neu ragor o aelodau pwyllgor llywodraethu ac archwilio yn aelodau o’r weithrediaeth sy’n rhannu swydd, nid yw’r aelodau hynny gyda’i gilydd ond yn cyfrif fel un aelod o’r pwyllgor at ddibenion is-adran (2)(b).

(3)

Mae dyletswydd ar y person sy'n cadeirio pwyllgor F4llywodraethu ac archwilio i sicrhau bod cyfarfodydd y pwyllgor yn cael eu cynnal fel y mae is-adrannau (1) a (2) yn ei gwneud yn ofynnol.

(4)

Nid yw'r adran hon yn atal pwyllgor F5llywodraethu ac archwilio rhag cyfarfod ac eithrio fel y mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol.