RHAN 6TROSOLWG A CHRAFFU
PENNOD 2PWYLLGORAU ARCHWILIO
84Cynnal cyfarfodydd: pa mor aml
(1)
Rhaid i bwyllgor archwilio gyfarfod unwaith ym mhob blwyddyn galendr.
(2)
Rhaid i bwyllgor archwilio awdurdod lleol gyfarfod hefyd—
(a)
os yw'r awdurdod lleol yn penderfynu y dylai'r pwyllgor gyfarfod, neu
(b)
os yw traean o leiaf o aelodau o'r pwyllgor yn hawlio cyfarfod drwy gyfrwng un neu ragor o hysbysiad ysgrifenedig a roddir i'r person sy'n cadeirio'r pwyllgor.
(3)
Mae dyletswydd ar y person sy'n cadeirio pwyllgor archwilio i sicrhau bod cyfarfodydd y pwyllgor yn cael eu cynnal fel y mae is-adrannau (1) a (2) yn ei gwneud yn ofynnol.
(4)
Nid yw'r adran hon yn atal pwyllgor archwilio rhag cyfarfod ac eithrio fel y mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol.