RHAN 6LL+CTROSOLWG A CHRAFFU

PENNOD 2LL+CPWYLLGORAU [F1LLYWODRAETHU AC] ARCHWILIO

83Trafodion etcLL+C

[F2(1)Mae cyfarfod o bwyllgor llywodraethu ac archwilio i’w gadeirio—

(a)gan gadeirydd y pwyllgor, neu

(b)os yw cadeirydd y pwyllgor yn absennol, gan y dirprwy gadeirydd.

(2)Os yw cadeirydd y pwyllgor a’r dirprwy gadeirydd ill dau yn absennol caiff y pwyllgor benodi aelod o’r pwyllgor nad yw’n aelod o weithrediaeth yr awdurdod lleol, nac yn gynorthwyydd i’w weithrediaeth, i gadeirio’r cyfarfod.]

(3)Caiff holl aelodau pwyllgor [F3llywodraethu ac] archwilio bleidleisio ar unrhyw gwestiwn y mae'n dod i ran y pwyllgor i'w benderfynu.

[F4(3A)Os yw dau neu ragor o aelodau pwyllgor llywodraethu ac archwilio yn aelodau o’r weithrediaeth sy’n rhannu swydd, mae gan yr aelodau hynny un bleidlais rhyngddynt at ddibenion is-adran (3).]

(4)Caiff pwyllgor [F5llywodraethu ac] archwilio awdurdod lleol—

(a)ei gwneud yn ofynnol i aelodau a swyddogion yr awdurdod ddod ger ei fron i ateb cwestiynau, a

(b)gwahodd personau eraill i fynychu cyfarfodydd y pwyllgor.

(5)Mae dyletswydd ar unrhyw aelod o awdurdod lleol neu swyddog i awdurdod lleol i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan is-adran (4)(a).

(6)Nid yw is-adran (5) yn ei gwneud yn orfodol i berson ateb unrhyw gwestiwn y byddai gan y person hawl i wrthod ei ateb mewn achosion llys, neu at ddibenion achosion llys, yng Nghymru a Lloegr.

(7)Mae pwyllgor [F6llywodraethu ac] archwilio i'w drin fel pe bai'n bwyllgor i brif gyngor at ddibenion Rhan 5A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (cael mynd i gyfarfodydd a chael gweld dogfennau awdurdodau, pwyllgorau ac is-bwyllgorau penodol).

F7(8). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .