RHAN 6TROSOLWG A CHRAFFU

PENNOD 2PWYLLGORAU LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO

83Trafodion etc

F1(1)

Mae cyfarfod o bwyllgor llywodraethu ac archwilio i’w gadeirio—

(a)

gan gadeirydd y pwyllgor, neu

(b)

os yw cadeirydd y pwyllgor yn absennol, gan y dirprwy gadeirydd.

(2)

Os yw cadeirydd y pwyllgor a’r dirprwy gadeirydd ill dau yn absennol caiff y pwyllgor benodi aelod o’r pwyllgor nad yw’n aelod o weithrediaeth yr awdurdod lleol, nac yn gynorthwyydd i’w weithrediaeth, i gadeirio’r cyfarfod.

(3)

Caiff holl aelodau pwyllgor F2llywodraethu ac archwilio bleidleisio ar unrhyw gwestiwn y mae'n dod i ran y pwyllgor i'w benderfynu.

F3(3A)

Os yw dau neu ragor o aelodau pwyllgor llywodraethu ac archwilio yn aelodau o’r weithrediaeth sy’n rhannu swydd, mae gan yr aelodau hynny un bleidlais rhyngddynt at ddibenion is-adran (3).

(4)

Caiff pwyllgor F4llywodraethu ac archwilio awdurdod lleol—

(a)

ei gwneud yn ofynnol i aelodau a swyddogion yr awdurdod ddod ger ei fron i ateb cwestiynau, a

(b)

gwahodd personau eraill i fynychu cyfarfodydd y pwyllgor.

(5)

Mae dyletswydd ar unrhyw aelod o awdurdod lleol neu swyddog i awdurdod lleol i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan is-adran (4)(a).

(6)

Nid yw is-adran (5) yn ei gwneud yn orfodol i berson ateb unrhyw gwestiwn y byddai gan y person hawl i wrthod ei ateb mewn achosion llys, neu at ddibenion achosion llys, yng Nghymru a Lloegr.

(7)

Mae pwyllgor F5llywodraethu ac archwilio i'w drin fel pe bai'n bwyllgor i brif gyngor at ddibenion Rhan 5A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (cael mynd i gyfarfodydd a chael gweld dogfennau awdurdodau, pwyllgorau ac is-bwyllgorau penodol).

F6(8)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .