Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Rhn. 6 Pnd. 2 title wedi eu mewnosod (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 2; O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
(1)Mae awdurdod lleol i benodi aelodau ei bwyllgor [F2llywodraethu ac] archwilio.
(2)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau—
(a)bod dwy ran o dair F3... o [F4aelodau’r pwyllgor hwnnw’n] aelodau o'r awdurdod;
[F5(b)bod un rhan o dair o aelodau’r pwyllgor hwnnw yn lleygwyr;]
(c)nad oes mwy nag un o [F6aelodau’r pwyllgor hwnnw’n] aelod o weithrediaeth yr awdurdod [F7(ond gweler is-adran (8))] [F8neu’n gynorthwyydd i’w weithrediaeth] ;
(d)nad yw aelod hŷn ei weithrediaeth yn aelod [F9o’r pwyllgor hwnnw] .
(3)Nid yw is-adran (2)(c) yn ei gwneud yn ofynnol i aelodaeth pwyllgor [F10llywodraethu ac] archwilio awdurdod lleol gynnwys aelod o weithrediaeth yr awdurdod [F11neu gynorthwyydd i’w weithrediaeth] .
(4)Nid yw penodi person yn aelod o bwyllgor [F12llywodraethu ac] archwilio yn cael effaith os bydd aelodaeth y pwyllgor yn mynd yn groes i is-adran (2) yn syth ar ôl penodi (p'un ai yn rhinwedd y penodi ai peidio).
(5)Mewn achos pan fo un person neu ragor, ar adeg neilltuol, i'w wneud neu i'w gwneud yn aelod neu'n aelodau o bwyllgor [F13llywodraethu ac] archwilio, neu i beidio â bod yn aelod neu'n aelodau o bwyllgor [F13“llywodraethu ac] archwilio, mae'r holl newidiadau hynny yn yr aelodaeth i'w hystyried wrth benderfynu a yw aelodaeth y pwyllgor yn mynd yn groes i is-adran (2).
[F14(5A)Mae pwyllgor llywodraethu ac archwilio i benodi—
(a)aelod o’r pwyllgor yn gadeirydd arno (“cadeirydd y pwyllgor”), a
(b)aelod o’r pwyllgor yn ddirprwy i gadeirydd y pwyllgor (“y dirprwy gadeirydd”).
(5B)Rhaid i’r aelod a benodir yn gadeirydd y pwyllgor fod yn lleygwr.
(5C)Ni chaiff yr aelod a benodir yn ddirprwy gadeirydd fod yn aelod o weithrediaeth yr awdurdod lleol nac yn gynorthwyydd i’w weithrediaeth.]
F15(6). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
[F16(7)Mae pwyllgor [F17llywodraethu ac] archwilio i’w drin fel corff y mae adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (dyletswydd i ddyrannu seddau i grwpiau gwleidyddol) yn gymwys iddo.]
[F18(8)Os yw dau neu ragor o aelodau awdurdod lleol wedi eu penodi i’r weithrediaeth i rannu swydd, caniateir penodi mwy nag un o’r aelodau hynny i bwyllgor llywodraethu ac archwilio yr awdurdod (ac os y’u penodir hwy felly, gyda’i gilydd maent yn cyfrif fel un aelod gweithrediaeth at ddibenion is-adran (2)(c)).]
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn a. 82(1) wedi eu mewnosod (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 4(a); O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
F3Geiriau yn a. 82(2)(a) wedi eu hepgor (5.5.2022) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 116(2)(a), 175(7); O.S. 2021/297, ergl. 3(b)
F4Geiriau yn a. 82(2)(a) wedi eu hamnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 4(b)(i); O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
F5A. 82(2)(b) wedi ei amnewid (5.5.2022) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 116(2)(b), 175(7); O.S. 2021/297, ergl. 3(b)
F6Geiriau yn a. 82(2)(c) wedi eu hamnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 4(b)(iii); O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
F7Geiriau yn a. 82(2)(c) wedi eu mewnosod (13.5.2022) gan Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhannu Swydd a Chynorthwywyr Gweithrediaeth) 2022 (O.S. 2022/533), rhlau. 1(2), 2(5)(a)
F8Geiriau yn a. 82(2)(c) wedi eu mewnosod (5.5.2022) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 6 para. 6(4)(a); O.S. 2021/231, ergl. 6(t) (as wedi eu hamnewid gan O.S. 2021/1249, ergl. 3(2))
F9Geiriau yn a. 82(2)(d) wedi eu hamnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 4(b)(iv); O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
F10Geiriau yn a. 82(3) wedi eu mewnosod (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 4(c); O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
F11Geiriau yn a. 82(3) wedi eu mewnosod (5.5.2022) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 6 para. 6(4)(b); O.S. 2021/231, ergl. 6(t) (as wedi eu hamnewid gan O.S. 2021/1249, ergl. 3(2))
F12Geiriau yn a. 82(4) wedi eu hamnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 4(d); O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
F13Geiriau yn a. 82(5) wedi eu hamnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 4(e); O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
F14A. 82(5A)-(5C) wedi ei fewnosod (5.5.2022) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 116(3), 175(7); O.S. 2021/297, ergl. 3(b)
F15A. 82(6) wedi ei hepgor (5.5.2022) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 116(4), 175(7); O.S. 2021/297, ergl. 3(b)
F16A. 82(7) wedi ei fewnosod (30.9.2013) gan Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (anaw 4), aau. 61, 75(2)(d)
F17Geiriau yn a. 82(7) wedi eu hamnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(7), Atod. 10 para. 4(g); O.S. 2021/297, ergl. 2(h)
F18A. 82(8) wedi ei fewnosod (13.5.2022) gan Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhannu Swydd a Chynorthwywyr Gweithrediaeth) 2022 (O.S. 2022/533), rhlau. 1(2), 2(5)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 82 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)