RHAN 6TROSOLWG A CHRAFFU
PENNOD 2PWYLLGORAU LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO
82Aelodaeth
(1)
Mae awdurdod lleol i benodi aelodau ei bwyllgor F1llywodraethu ac archwilio.
(2)
Rhaid i awdurdod lleol sicrhau—
F4(b)
bod un rhan o dair o aelodau’r pwyllgor hwnnw yn lleygwyr;
(c)
(d)
nad yw aelod hŷn ei weithrediaeth yn aelod F8o’r pwyllgor hwnnw .
(3)
(4)
Nid yw penodi person yn aelod o bwyllgor F11llywodraethu ac archwilio yn cael effaith os bydd aelodaeth y pwyllgor yn mynd yn groes i is-adran (2) yn syth ar ôl penodi (p'un ai yn rhinwedd y penodi ai peidio).
(5)
Mewn achos pan fo un person neu ragor, ar adeg neilltuol, i'w wneud neu i'w gwneud yn aelod neu'n aelodau o bwyllgor F12llywodraethu ac archwilio, neu i beidio â bod yn aelod neu'n aelodau o bwyllgor F12“llywodraethu ac archwilio, mae'r holl newidiadau hynny yn yr aelodaeth i'w hystyried wrth benderfynu a yw aelodaeth y pwyllgor yn mynd yn groes i is-adran (2).
F13(5A)
Mae pwyllgor llywodraethu ac archwilio i benodi—
(a)
aelod o’r pwyllgor yn gadeirydd arno (“cadeirydd y pwyllgor”), a
(b)
aelod o’r pwyllgor yn ddirprwy i gadeirydd y pwyllgor (“y dirprwy gadeirydd”).
(5B)
Rhaid i’r aelod a benodir yn gadeirydd y pwyllgor fod yn lleygwr.
(5C)
Ni chaiff yr aelod a benodir yn ddirprwy gadeirydd fod yn aelod o weithrediaeth yr awdurdod lleol nac yn gynorthwyydd i’w weithrediaeth.
F14(6)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
F15(7)
Mae pwyllgor F16llywodraethu ac archwilio i’w drin fel corff y mae adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (dyletswydd i ddyrannu seddau i grwpiau gwleidyddol) yn gymwys iddo.
F17(8)
Os yw dau neu ragor o aelodau awdurdod lleol wedi eu penodi i’r weithrediaeth i rannu swydd, caniateir penodi mwy nag un o’r aelodau hynny i bwyllgor llywodraethu ac archwilio yr awdurdod (ac os y’u penodir hwy felly, gyda’i gilydd maent yn cyfrif fel un aelod gweithrediaeth at ddibenion is-adran (2)(c)).