xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6LL+CTROSOLWG A CHRAFFU

PENNOD 2LL+CPWYLLGORAU [F1LLYWODRAETHU AC] ARCHWILIO

82AelodaethLL+C

(1)Mae awdurdod lleol i benodi aelodau ei bwyllgor [F2llywodraethu ac] archwilio.

(2)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau—

(a)bod dwy ran o dair F3... o [F4aelodau’r pwyllgor hwnnw’n] aelodau o'r awdurdod;

[F5(b)bod un rhan o dair o aelodau’r pwyllgor hwnnw yn lleygwyr;]

(c)nad oes mwy nag un o [F6aelodau’r pwyllgor hwnnw’n] aelod o weithrediaeth yr awdurdod [F7neu’n gynorthwyydd i’w weithrediaeth];

(d)nad yw aelod hŷn ei weithrediaeth yn aelod [F8o’r pwyllgor hwnnw].

(3)Nid yw is-adran (2)(c) yn ei gwneud yn ofynnol i aelodaeth pwyllgor [F9llywodraethu ac] archwilio awdurdod lleol gynnwys aelod o weithrediaeth yr awdurdod [F10neu gynorthwyydd i’w weithrediaeth].

(4)Nid yw penodi person yn aelod o bwyllgor [F11llywodraethu ac] archwilio yn cael effaith os bydd aelodaeth y pwyllgor yn mynd yn groes i is-adran (2) yn syth ar ôl penodi (p'un ai yn rhinwedd y penodi ai peidio).

(5)Mewn achos pan fo un person neu ragor, ar adeg neilltuol, i'w wneud neu i'w gwneud yn aelod neu'n aelodau o bwyllgor [F12llywodraethu ac] archwilio, neu i beidio â bod yn aelod neu'n aelodau o bwyllgor [F12“llywodraethu ac] archwilio, mae'r holl newidiadau hynny yn yr aelodaeth i'w hystyried wrth benderfynu a yw aelodaeth y pwyllgor yn mynd yn groes i is-adran (2).

[F13(5A)Mae pwyllgor llywodraethu ac archwilio i benodi—

(a)aelod o’r pwyllgor yn gadeirydd arno (“cadeirydd y pwyllgor”), a

(b)aelod o’r pwyllgor yn ddirprwy i gadeirydd y pwyllgor (“y dirprwy gadeirydd”).

(5B)Rhaid i’r aelod a benodir yn gadeirydd y pwyllgor fod yn lleygwr.

(5C)Ni chaiff yr aelod a benodir yn ddirprwy gadeirydd fod yn aelod o weithrediaeth yr awdurdod lleol nac yn gynorthwyydd i’w weithrediaeth.]

F14(6). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

[F15(7)Mae pwyllgor [F16llywodraethu ac] archwilio i’w drin fel corff y mae adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (dyletswydd i ddyrannu seddau i grwpiau gwleidyddol) yn gymwys iddo.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 82 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)