RHAN 6TROSOLWG A CHRAFFU

PENNOD 2PWYLLGORAU LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO

81Awdurdodau lleol i benodi pwyllgorau F1llywodraethu ac archwilio

(1)

Rhaid i awdurdod lleol benodi pwyllgor F2(“pwyllgor llywodraethu ac archwilio”)

(a)

i arolygu materion ariannol yr awdurdod a chraffu arnynt,

(b)

i lunio adroddiadau a gwneud argymhellion mewn perthynas â materion ariannol yr awdurdod.

(c)

i adolygu ac asesu trefniadau'r awdurdod ar gyfer rheoli risgiau, rheolaeth fewnol F3, asesu perfformiad a llywodraethu corfforaethol,

(d)

i lunio adroddiadau a gwneud argymhellion i'r awdurdod ynghylch digonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau hynny,

F4(da)

i adolygu ac asesu gallu’r awdurdod i ymdrin â chwynion mewn modd effeithiol,

(db)

i lunio adroddiadau a gwneud argymhellion mewn perthynas â gallu’r awdurdod i ymdrin â chwynion mewn modd effeithiol,

(e)

i arolygu trefniadau archwilio mewnol ac allanol yr awdurdod, ac

(f)

i adolygu'r datganiadau ariannol a lunnir gan yr awdurdod.

F5(1A)

Gweler Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (perfformiad prif gynghorau a’u llywodraethu) am swyddogaethau pellach pwyllgorau llywodraethu ac archwilio.

(2)

Caiff awdurdod lleol roi i'w bwyllgor F6llywodraethu ac archwilio unrhyw swyddogaethau eraill y mae'r awdurdod o'r farn eu bod yn addas i'w harfer gan y cyfryw bwyllgor.

(3)

Y pwyllgor F7llywodraethu ac archwilio sydd i benderfynu sut mae i arfer ei swyddogaethau.