Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

81Awdurdodau lleol i benodi pwyllgorau archwilioLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i awdurdod lleol benodi pwyllgor (“pwyllgor archwilio”)—

(a)i arolygu materion ariannol yr awdurdod a chraffu arnynt,

(b)i lunio adroddiadau a gwneud argymhellion mewn perthynas â materion ariannol yr awdurdod.

(c)i adolygu ac asesu trefniadau'r awdurdod ar gyfer rheoli risgiau, rheolaeth fewnol a llywodraethu corfforaethol,

(d)i lunio adroddiadau a gwneud argymhellion i'r awdurdod ynghylch digonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau hynny,

(e)i arolygu trefniadau archwilio mewnol ac allanol yr awdurdod, ac

(f)i adolygu'r datganiadau ariannol a lunnir gan yr awdurdod.

(2)Caiff awdurdod lleol roi i'w bwyllgor archwilio unrhyw swyddogaethau eraill y mae'r awdurdod o'r farn eu bod yn addas i'w harfer gan y cyfryw bwyllgor.

(3)Y pwyllgor archwilio sydd i benderfynu sut mae i arfer ei swyddogaethau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 81 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I2A. 81 mewn grym ar 30.4.2012 gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(1)(j)