Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

80Dehongli'r Bennod honLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

Yn y Bennod hon—

  • ystyr “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”), mewn perthynas â phwyllgor trosolwg a chraffu i awdurdod lleol, neu ag is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, yw person—

    (a)

    sy'n aelod o'r pwyllgor neu o'r is-bwyllgor, ond

    (b)

    nad yw'n aelod o'r awdurdod lleol;

  • mae i “pwyllgor trosolwg a chraffu” yr ystyr sydd i “overview and scrutiny committee” yn Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (gweler adran 21 o'r Ddeddf honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 80 mewn grym ar 11.5.2011, gweler a. 178(1)(a)