RHAN 1ATGYFNERTHU DEMOCRATIAETH LEOL

PENNOD 2GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD AWDURDOD LLEOL

8Pennaeth gwasanaethau democrataidd

(1)

Rhaid i awdurdod lleol—

(a)

dynodi un o'i swyddogion i gyflawni'r swyddogaethau yn adran 9 (“swyddogaethau gwasanaethau democrataidd”);

(b)

darparu i'r swyddog hwnnw y staff, y llety a'r adnoddau eraill sydd, ym marn yr awdurdod, yn ddigon i ganiatáu i swyddogaethau'r swyddog hwnnw gael eu cyflawni.

F1(1A)

Rhaid i awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch swyddogaeth yr awdurdod lleol o dan is-adran (1)(b).

(2)

Caiff pennaeth gwasanaethau democrataidd drefnu i swyddogaethau gwasanaethau democrataidd gael eu cyflawni gan staff a ddarperir o dan yr adran hon.

(3)

Mae swyddog a ddynodir gan awdurdod lleol o dan yr adran hon i'w alw'n bennaeth gwasanaethau democrataidd.

(4)

Ni chaiff awdurdod lleol ddynodi unrhyw un neu ragor o'r canlynol o dan yr adran hon—

F2(a)

prif weithredwr yr awdurdod a benodwyd o dan adran 54 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;

F3(b)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(c)

prif swyddog cyllid yr awdurdod, o fewn ystyr F4adran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 .