RHAN 6TROSOLWG A CHRAFFU

PENNOD 1PWYLLGORAU TROSOLWG A CHRAFFU

Cyfyngu ar reoli pwyllgorau gan bleidiau

78Gwahardd pleidleisio o dan gyfarwyddyd chwip plaid a datgan cyfarwyddyd chwip plaid

(1)

Ni chaniateir i aelod o bwyllgor trosolwg a chraffu bleidleisio ar gwestiwn mewn cyfarfod o'r pwyllgor os rhoddwyd cyfarwyddyd chwip plaid i'r aelod, cyn y cyfarfod, mewn perthynas â'r cwestiwn (“cyfarwyddyd gwaharddedig chwip plaid”).

(2)

Rhaid diystyru pleidlais a roddir yn groes i is-adran (1).

(3)

Rhaid i reolau sefydlog ddarparu bod rhaid i bob aelod o'r pwyllgor, ym mhob un o gyfarfodydd pwyllgor trosolwg a chraffu i awdurdod lleol, ddatgan unrhyw gyfarwyddyd gwaharddedig chwip plaid sydd wedi ei roi i'r aelod mewn perthynas â'r cyfarfod.

(4)

Rhaid i reolau sefydlog ei gwneud yn ofynnol i gofnodion pob cyfarfod pwyllgor trosolwg a chraffu gofnodi pob datganiad o'r fath yn y cyfarfod am gyfarwyddyd gwaharddedig chwip plaid.

(5)

Y person sy'n cadeirio cyfarfod o'r pwyllgor trosolwg a chraffu sydd i benderfynu a yw aelod o'r pwyllgor wedi cael cyfarwyddyd gwaharddedig chwip plaid mewn perthynas â'r cyfarfod.

(6)

Os bydd mynd yn groes i'r adran hon yn effeithio'n sylweddol ar benderfynu cwestiwn gan bwyllgor trosolwg a chraffu, mae'r penderfyniad i'w drin fel pe na fo wedi ei wneud.

(7)

Nid yw is-adran (6) yn effeithio ar unrhyw weithred neu anweithred gan unrhyw berson ac eithrio'r pwyllgor trosolwg a chraffu.

(8)

At ddibenion is-adran (6), o ran mynd yn groes i'r adran hon ac effaith ar benderfynu cwestiwn gan bwyllgor trosolwg a chraffu—

(a)

mae'n effeithio'n sylweddol os yw un aelod o'r pwyllgor neu ragor yn pleidleisio ar y cwestiwn yn groes i is-adran (1),

(b)

mae'n effeithio'n sylweddol os na ddiystyrir un neu ragor o'r pleidleisiau a grybwyllir ym mharagraff (a) yn unol ag is-adran (2), ac

(c)

mae'n effeithio'n sylweddol pe byddai'r penderfyniad i'r cwestiwn wedi bod yn wahanol pe byddai'r bleidlais neu'r pleidleisiau a grybwyllir ym mharagraff (b) wedi eu diystyru'n unol ag is-adran (2).

(9)

Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag is-bwyllgor i bwyllgor trosolwg a chraffu fel y mae'n gymwys i'r pwyllgor trosolwg a chraffu (ac yn unol â hyn mae cyfeiriadau yn yr adran hon at bwyllgor trosolwg a chraffu i'w darllen fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at is-bwyllgor o'r fath).

(10)

Yn yr adran hon—

ystyr “cyfarwyddyd chwip plaid” (“party whip”) yw cyfarwyddyd (sut bynnag y'i mynegir)—

(a)

a roddir ar ran grŵp gwleidyddol ar awdurdod lleol;

(b)

a roddir i berson (P)—

  1. (i)

    sy'n aelod o'r grŵp gwleidyddol, a

  2. (ii)

    sy'n aelod o bwyllgor trosolwg a chraffu i'r awdurdod lleol;

(c)

ynghylch sut y dylai P bleidleisio ar gwestiwn y mae'n dod i ran y pwyllgor i'w benderfynu; a

(d)

os na chydymffurfir ag ef gan P, a fyddai'n debygol o wneud P yn agored i gamau disgyblu gan y grŵp gwleidyddol sy'n rhoi'r cyfarwyddyd;

ystyr “grŵp gwleidyddol” (“political group”) yw grŵp o aelodau o awdurdod lleol sy'n grŵp gwleidyddol at ddibenion Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;

ystyr “rheolau sefydlog” (“standing orders”), mewn perthynas â phwyllgor trosolwg a chraffu, yw rheolau sefydlog sy'n rheoleiddio trafodion a busnes y pwyllgor hwnnw.