RHAN 6TROSOLWG A CHRAFFU

PENNOD 1PWYLLGORAU TROSOLWG A CHRAFFU

Aelodau cyfetholedig pwyllgorau trosolwg a chraffu

76Canllawiau a chyfarwyddiadau ynghylch cyfethol

(1)

Rhaid i awdurdod lleol, wrth arfer swyddogaeth gyfethol neu benderfynu ai i'w harfer—

(a)

rhoi sylw i ganllawiau a roddwyd gan Weinidogion Cymru, a

(b)

cydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddwyd gan Weinidogion Cymru.

(2)

Yn yr adran hon ystyr y term “swyddogaeth gyfethol” yw un o swyddogaethau awdurdod lleol sy'n ymwneud ag aelodau cyfetholedig—

(a)

o bwyllgorau trosolwg a chraffu, neu

(b)

o is-bwyllgorau i'r pwyllgorau hynny.

(3)

Mae'n cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig iddi) swyddogaeth sy'n ymwneud â' phenodi'r aelodau cyfetholedig hynny.