RHAN 6LL+CTROSOLWG A CHRAFFU

PENNOD 1LL+CPWYLLGORAU TROSOLWG A CHRAFFU

Valid from 30/04/2012

Penodi personau i gadeirio pwyllgorauLL+C

75Darpariaeth atodol a dehongliLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth—

(a)ynghylch darpariaeth benodi, a

(b)ynghylch penodi cadeiryddion pwyllgorau yn unol â darpariaeth benodi.

(2)Rhaid i awdurdod lleol, wrth iddo arfer neu benderfynu ai i arfer swyddogaeth mewn cysylltiad â darpariaeth benodi neu â phenodi cadeiryddion pwyllgorau—

(a)rhoi sylw i ganllawiau a roddwyd gan Weinidogion Cymru, a

(b)cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd gan Weinidogion Cymru.

(3)Yn adrannau 66 i 74 ac yn yr adran hon—

  • mae i “cadeirydd pwyllgor” (“committee chair”) yr ystyr a roddir yn adran 66;

  • mae i “darpariaeth benodi” (“appointment provision”) yr ystyr a roddir yn adran 66;

  • ystyr “dyfarniad adran 70” (“section 70 determination”) yw dyfarniad o'r math y cyfeirir ato yn adran 70.

  • ystyr “grŵp gweithrediaeth” (“executive group”) yw grŵp gwleidyddol y mae rhai neu'r cyfan o'i aelodau yn ffurfio neu yn cael eu cynnwys yng ngweithrediaeth yr awdurdod;

  • ystyr “grŵp gwleidyddol” (“political group”), mewn perthynas ag awdurdod lleol, yw grŵp o aelodau o'r awdurdod sy'n grŵp gwleidyddol at ddibenion Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;

  • ystyr “grŵp gwrthblaid” (“opposition group”) yw grŵp gwleidyddol nad oes yr un o'i aelodau yn cael ei gynnwys yng ngweithrediaeth yr awdurdod.

(4)Yn adran 21 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (pwyllgorau trosolwg a chraffu), ar ôl is-adran (10) mewnosoder—

(10A)For provision about the appointment of persons to chair overview and scrutiny committees of local authorities in Wales, see sections 66 to 75 of the Local Government (Wales) Measure 2011..