RHAN 6LL+CTROSOLWG A CHRAFFU

PENNOD 1LL+CPWYLLGORAU TROSOLWG A CHRAFFU

Penodi personau i gadeirio pwyllgorauLL+C

72Newidiadau yng nghyfansoddiad gweithrediaethLL+C

(1)Mae darpariaeth benodi awdurdod lleol yn cydymffurfio â'r adran hon os yw'n darparu ar gyfer yr achos a geir yn is-adran (2) drwy gyfrwng darpariaeth o'r math y cyfeirir ato yn is-adrannau (3) a (4).

(2)Yr achos hwnnw yw pan fo'r naill neu'r llall neu'r naill a'r llall o'r pethau a ganlyn yn digwydd—

(a)mae grŵp gwleidyddol yn peidio â bod yn grŵp gweithrediaeth;

(b)mae grŵp gwleidyddol yn dechrau bod yn grŵp gweithrediaeth;

ac nid yr achos a geir yn adran 70 ydyw.

(3)Rhaid i'r ddarpariaeth benodi ddarparu ar gyfer gwneud—

(a)penderfyniad adran 70 (fel pe byddai wedi dod yn amser penodi holl gadeiryddion pwyllgorau'r awdurdod lleol), a

(b)penderfyniad ynghylch a oes gwahaniaeth rhwng—

(i)nifer y cadeiryddion pwyllgor y byddai gan grŵp gwleidyddol hawl i'w penodi'n unol â phenderfyniad adran 70, a

(ii)nifer y cadeiryddion pwyllgor sy'n dal swyddi ar yr adeg honno ac a benodwyd gan y grŵp hwnnw.

(4)Rhaid i'r ddarpariaeth benodi ddarparu bod unrhyw wahaniaeth o'r math y cyfeirir ato yn is-adran (3)(b) yn cael ei ddileu gan y naill neu'r llall o'r canlynol neu gan y naill a'r llall o'r canlynol—

(a)terfynu penodiadau presennol cadeiryddion pwyllgorau;

(b)penodi cadeiryddion newydd ar gyfer pwyllgorau.

(5)At ddibenion yr adran hon, ystyrir bod grŵp gwleidyddol yn peidio â bod yn grŵp gweithrediaeth dim ond os, ar ôl iddo beidio â bod yn grŵp gweithrediaeth, bod cyfnod o ddau fis (gan ddechrau ar y diwrnod y mae'n peidio â bod yn grŵp gweithrediaeth) yn mynd heibio heb iddo ddod yn grŵp gweithrediaeth eto.