RHAN 6TROSOLWG A CHRAFFU
PENNOD 1PWYLLGORAU TROSOLWG A CHRAFFU
Penodi personau i gadeirio pwyllgorau
I1I272Newidiadau yng nghyfansoddiad gweithrediaeth
1
Mae darpariaeth benodi awdurdod lleol yn cydymffurfio â'r adran hon os yw'n darparu ar gyfer yr achos a geir yn is-adran (2) drwy gyfrwng darpariaeth o'r math y cyfeirir ato yn is-adrannau (3) a (4).
2
Yr achos hwnnw yw pan fo'r naill neu'r llall neu'r naill a'r llall o'r pethau a ganlyn yn digwydd—
a
mae grŵp gwleidyddol yn peidio â bod yn grŵp gweithrediaeth;
b
mae grŵp gwleidyddol yn dechrau bod yn grŵp gweithrediaeth;
ac nid yr achos a geir yn adran 70 ydyw.
3
Rhaid i'r ddarpariaeth benodi ddarparu ar gyfer gwneud—
a
penderfyniad adran 70 (fel pe byddai wedi dod yn amser penodi holl gadeiryddion pwyllgorau'r awdurdod lleol), a
b
penderfyniad ynghylch a oes gwahaniaeth rhwng—
i
nifer y cadeiryddion pwyllgor y byddai gan grŵp gwleidyddol hawl i'w penodi'n unol â phenderfyniad adran 70, a
ii
nifer y cadeiryddion pwyllgor sy'n dal swyddi ar yr adeg honno ac a benodwyd gan y grŵp hwnnw.
4
Rhaid i'r ddarpariaeth benodi ddarparu bod unrhyw wahaniaeth o'r math y cyfeirir ato yn is-adran (3)(b) yn cael ei ddileu gan y naill neu'r llall o'r canlynol neu gan y naill a'r llall o'r canlynol—
a
terfynu penodiadau presennol cadeiryddion pwyllgorau;
b
penodi cadeiryddion newydd ar gyfer pwyllgorau.
5
At ddibenion yr adran hon, ystyrir bod grŵp gwleidyddol yn peidio â bod yn grŵp gweithrediaeth dim ond os, ar ôl iddo beidio â bod yn grŵp gweithrediaeth, bod cyfnod o ddau fis (gan ddechrau ar y diwrnod y mae'n peidio â bod yn grŵp gweithrediaeth) yn mynd heibio heb iddo ddod yn grŵp gweithrediaeth eto.