RHAN 6LL+CTROSOLWG A CHRAFFU

PENNOD 1LL+CPWYLLGORAU TROSOLWG A CHRAFFU

Penodi personau i gadeirio pwyllgorauLL+C

71Methu â gwneud penodiadau yn unol ag adran 70LL+C

(1)Mae darpariaeth benodi awdurdod lleol yn cydymffurfio â'r adran hon os yw'n darparu—

(a)ei bod yn ofynnol i'r awdurdod, bob tro y bydd yn amser penodi rhai cadeiryddion pwyllgor neu'r holl gadeiryddion pwyllgor (“y cadeiryddion heb eu penodi”) sydd i'w penodi yn unol â darpariaeth benodi sy'n cydymffurfio ag adran 70 ond nad ydynt wedi cael eu penodi felly, wneud penderfyniad o dan is-adran (2) o sut y mae'r cadeiryddion heb eu penodi i gael eu penodi, a

(b)i'r cadeiryddion heb eu penodi gael eu penodi yn unol â hynny.

(2)Penderfyniad sydd, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, yn rhoi effaith i'r egwyddorion a ganlyn yw'r penderfyniad y cyfeirir ato yn is-adran (1).

(3)Yr egwyddor gyntaf yw nad oes hawl gan unrhyw grŵp gweithrediaeth i benodi unrhyw un o'r cadeiryddion heb eu penodi.

(4)Yr ail egwyddor yw—

(a)os nad oes ond un grŵp gwrthblaid, a bod y grŵp hwnnw wedi gwneud ei holl benodiadau cychwynnol, neu

(b)os oes dau neu ragor o grwpiau gwrthblaid, a bod un neu ragor ohonynt wedi gwneud ei holl benodiadau cychwynnol,

mae gan bob grŵp penodi hawl i benodi'r gyfran o gadeiryddion pwyllgor heb eu penodi sy'n cyfateb i gyfran y penodiadau cychwynnol gorffenedig a oedd yn benodiadau a wnaed gan y grŵp hwnnw.

(5)Y drydedd egwyddor yw—

(a)os oes cadeiryddion pwyllgor heb eu penodi, ond

(b)nid oes un ohonynt i gael eu penodi fel y crybwyllir yn is-adran (4),

mae pob cadeirydd pwyllgor heb ei benodi i'w benodi gan y pwyllgor y mae'r person hwnnw i'w gadeirio.

(6)Y bedwaredd egwyddor yw—

(a)os oes un neu ragor o gadeiryddion pwyllgor heb eu penodi i'w penodi fel y crybwyllir yn is-adran (4), ond

(b)mae un neu ragor ohonynt heb eu penodi felly,

mae pob cadeirydd pwyllgor nas penodir felly i'w benodi gan y pwyllgor y mae'r person hwnnw i'w gadeirio.

(7)Yn yr adran hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 71 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)