RHAN 6LL+CTROSOLWG A CHRAFFU

PENNOD 1LL+CPWYLLGORAU TROSOLWG A CHRAFFU

Penodi personau i gadeirio pwyllgorauLL+C

70Y penodiadau sydd i'w gwneud gan grwpiau gwleidyddolLL+C

(1)Mae darpariaeth benodi awdurdod lleol yn cydymffurfio â'r adran hon os yw'n darparu—

(a)ei bod yn ofynnol i'r awdurdod, bob tro y bydd yn amser penodi holl gadeiryddion ei bwyllgorau, i wneud penderfyniad o dan is-adran (2) ar ba grwpiau gwleidyddol ar yr awdurdod sydd â hawl i wneud pa benodiadau, a

(b)i'r grwpiau allu wneud y penodiadau yn unol â hynny.

(2)Penderfyniad sydd, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, yn rhoi effaith i'r egwyddorion a ganlyn yw'r penderfyniad y cyfeirir ato yn is-adran (1).

(3)Yr egwyddor gyntaf yw—

(a)os nad oes ond un grŵp gweithrediaeth, mae cyfran y cadeiryddion pwyllgor y mae gan y grŵp gweithrediaeth hawl i'w penodi yn cyfateb i gyfran yr aelodau o'r awdurdod sydd yn y grŵp;

(b)os oes dau neu ragor o grwpiau gweithrediaeth, mae cyfran y cadeiryddion pwyllgor y mae gan y grwpiau gweithrediaeth (o'u cymryd gyda'i gilydd) hawl i'w penodi, yn cyfateb i gyfran yr aelodau o'r awdurdod sy'n aelodau o'r grwpiau hynny (o'u cymryd gyda'i gilydd).

(4)Yr ail egwyddor yw—

(a)os nad oes ond un grŵp gwrthblaid, mae gan y grŵp hawl i benodi holl ddyraniad yr wrthblaid o gadeiryddion pwyllgor, neu

(b)os oes dau neu ragor o grwpiau gwrthblaid—

(i)mae gan y grwpiau gwrthblaid (o'u cymryd gyda'i gilydd) hawl i benodi holl ddyraniad yr wrthblaid o gadeiryddion pwyllgor, a

(ii)mae cyfran dyraniad yr wrthblaid o gadeiryddion pwyllgor y mae gan bob grŵp gwrthblaid (“grŵp perthnasol”) hawl i'w penodi yn cyfateb i gyfran aelodau'r grŵp gwrthblaid sy'n aelodau o'r grŵp perthnasol.

(5)Wrth roi effaith i'r egwyddorion yn is-adrannau (3)(a) a (b) a (4)(b)(ii), rhaid i'r ddarpariaeth benodi—

(a)darparu bod hawl grŵp gwleidyddol i benodi cadeiryddion pwyllgor yn hawl i benodi nifer cyfan o gadeiryddion pwyllgor, a

(b)yn unol â hynny, ddarparu i'r hawl gael ei thalgrynnu i'r nifer cyfan agosaf os na fyddai fel arall yn nifer cyfan.

(6)Wrth roi effaith i'r egwyddorion yn is-adran (3)(a) a (b), rhaid i'r ddarpariaeth benodi a wneir yn unol ag is-adran (5)(b) ddarparu i hawl y grŵp gweithrediaeth, neu'r grwpiau gweithrediaeth, gael ei thalgrynnu i lawr i'r nifer cyfan agosaf.

(7)At ddibenion is-adrannau (5) a (6), rhaid ystyried sero yn nifer cyfan.

(8)Yn yr adran hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 70 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)