RHAN 1ATGYFNERTHU DEMOCRATIAETH LEOL
PENNOD 1HYBU A CHEFNOGI AELODAETH O AWDURDODAU LLEOL
Cefnogi aelodaeth
7Hyfforddi a datblygu aelodau o awdurdod lleol
(1)
Rhaid i awdurdod lleol sicrhau y darperir cyfleoedd hyfforddi a datblygu rhesymol i'w aelodau.
(2)
Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod adolygiad blynyddol o anghenion hyfforddi a datblygu'r aelod ar gael i bob aelod o'r awdurdod.
(3)
Rhaid i'r adolygiad gynnwys cyfle am gyfweliad gyda pherson sydd, ym marn yr awdurdod, yn briodol gymwys i roi cyngor am anghenion hyfforddi a datblygu aelod o awdurdod lleol.
(4)
Wrth arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.
(5)
Yn achos awdurdod sy'n gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru), nid yw cyfeiriad yn yr adran hon at aelod o awdurdod lleol yn cynnwys yr arweinydd gweithrediaeth.